11 Medi 2015
Mae Prif Weithredwr wedi llongyfarch Canolfan Mileniwm Cymru ar drothwy’r dathlu mawr ym Mae Caerdydd a’r darlledu byw ar S4C.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones;
“Hoffwn longyfarch Canolfan Mileniwm Cymru ar gyrraedd carreg filltir nodedig. Mae’r adeilad eiconig wedi bod yn llwyfan i lu o berfformiadau cofiadwy, o’r traddodiadol i’r arloesol, ac mae’r ganolfan wedi cyfannu’n aruthrol at dwf ac amrywiaeth y celfyddydau o bob math yng Nghymru a’r byd.
"Mae S4C wedi cael y fraint o ddarlledu rhai o’r cynyrchiadau fu ar y llwyfan. Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r ganolfan i ddatblygu nifer o brosiectau creadigol. Rydym yn edrych ymlaen at ddegawd arall o ddifyrru pobl Cymru a’r byd a thorri tir newydd yn y celfyddydau perfformio.”
Bydd dathliadau degfed pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyrraedd uchafbwynt mawreddog gyda digwyddiad theatrig anhygoel yn yr awyr agored nos Sadwrn, 12 Medi a bydd y cyfan i'w weld yn fyw ar S4C, o 7.30 ymlaen, yn y rhaglen Dathlu'r Deg: Canolfan y Mileniwm.
Wedi blwyddyn o gynllunio ac wyth mis o gynhyrchu, bydd y cynhyrchiad 'Ar Waith ar Daith' gyda dros 600 o gyfranwyr yn cael ei lwyfannu ym masn Bae Caerdydd o flaen Canolfan y Mileniwm. Nia Roberts fydd yn cyflwyno'r noson ar S4C.
Chwedl oesol 'Genedigaeth Taliesin' sydd wrth wraidd y perfformiad. Bydd Canolfan y Mileniwm yn cael ei drawsffurfio drwy gyfuniad o ddychmygion. Dros y chwe mis diwethaf, mae'r ganolfan wedi bod yn casglu anrhegion o bell ac agos, yn talu teyrnged i gyfoeth y moroedd o amgylch gogledd Cymru a chyfoeth mwynol de Cymru, ac yn hel straeon ac ysbrydoliaeth o bob rhan o'r wlad drwy gyfres o sesiynau hyfforddi celf awyr agored.
Wedi eu denu gan bwerau hud y ddewines Ceridwen o chwedl Taliesin, bydd llynges fach o gychod o Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru yn cwblhau eu taith ym Mae Caerdydd, gan ymuno â phlant ysgol o Gaernarfon, ffermwyr ifanc, a phobl ifanc o'r Cymoedd. Bydd rhai o'r rhwyfwyr wedi teithio 230 o filltiroedd ar hyd yr arfordir o Borthmadog i Fae Caerdydd.
Shân Cothi fydd yn perfformio rhan Ceridwen, a bydd y cynhyrchiad cyffrous yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr ac enillydd gwobr BAFTA, John Rea. Bydd Ceridwen yn cyfuno ysbrydoliaeth farddonol - yr Awen - o Gymru gyfoes gyda thalentau dawnswyr, cerddorion a chantorion sy’n gysylltiedig â Chanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd y rhaglen Dathlu'r 10: Canolfan y Mileniwm hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau nifer fawr o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar draws Cymru yn gysylltiedig â'r dathliadau. Yn eu plith fydd gweithdai creadigol Crochan Ceridwen yng Nghaernarfon; hanes, chwedloniaeth a straeon am enedigaeth y bardd Taliesin yng Nghastell y Bere, ger Abergynolwyn yng Ngwynedd a sesiynau sy'n dathlu grym haearn a dur yng Nghasnewydd.
Ers iddi agor ym mis Tachwedd 2004 mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi croesawu dros 13.5 miliwn o bobl drwy'r drysau ac mae'n gartref i wyth o gwmnïau creadigol eraill.
Meddai Hefin Owen, cynhyrchydd Dathlu'r 10: Canolfan y Mileniwm, "Mae'n braf cael bod yn rhan o ddathliad canolfan sydd, nid yn unig wedi ennill ei phlwy' gyda ni'r Cymry, ond hefyd wedi ennill canmoliaeth am ei pherfformiadau safonol ledled y byd."
Dathlu'r 10: Canolfan y Mileniwm
Nos Sadwrn 12 Medi 7.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C