06 Hydref 2015
Yr wythnos hon bydd rhaglenni S4C yn dathlu canmlwyddiant geni T Llew Jones; gan ddechrau heno, nos Fawrth 6 Hydref 9.30, gyda rhaglen ddogfen ddadlennol newydd, T. Llew Jones yng nghwmni Beti George.
Bu S4C yn gweithio'n agos â Phwyllgor Dathlu Canmlwyddiant T Llew Jones wrth baratoi'r rhaglenni, ac mae'r sianel yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Pwyllgor wrth gynnwys S4C yn rhan o'r dathliadau ar draws y wlad.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C; "Hoffwn longyfarch Pwyllgor Dathlu Canmlwyddiant T Llew Jones ar yr holl weithgaredd eleni. Roeddem yn falch iawn o gydweithio gyda nhw i baratoi ein hamserlen o raglenni, er mwyn adlewyrchu digwyddiadau o bwys cenedlaethol ar y sianel deledu genedlaethol.
"Ymhlith y rhaglenni i'w mwynhau mae dogfen fydd yn rhoi golwg newydd i ni ar fywyd a gwaith T Llew Jones, ac rydw i yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilm Tân ar y Comin unwaith eto, gan obeithio y bydd yn ysbrydoli gwylwyr o bob oed i ail-afael yn ei lyfrau."
Dywedodd Heulwen Davies, ar ran Pwyllgor Canmlwyddiant T Llew Jones; "Mae'r Pwyllgor Dathlu yn edrych ymlaen yn fawr iawn at wythnos ddathlu canmlwyddiant geni T Llew Jones. Mae wedi bod yn bleser i gydweithio gyda nifer o sefydliadau ac unigolion ar hyd a lled Cymru i drefnu digwyddiadau eleni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i S4C am gydweithio gyda ni i sicrhau arlwy gyffrous o raglenni teledu. Mae aelodau'r Pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr at wylio'r rhaglen ddogfen newydd gyda Beti George."
Yn y rhaglen ddogfen ddadlennol newydd, T. Llew Jones heno am 9.30, bydd y cyflwynydd Beti George yn dod i adnabod y dyn y tu ôl i'r wyneb cyhoeddus. Bydd hi'n sgwrsio gyda nifer o bobl sy'n cofio T Llew fel athro a phrifathro cyfareddol, fel chwaraewr gwyddbwyll a chricedwr dawnus, yn ogystal â'r awdur a ysbrydolodd lawer awdur arall.
Ar nos Sadwrn 10 Hydref am 7.30, mae cyfle i fwynhau'r addasiad ffilm o'r nofel Tân ar y Comin, ac i ddilyn, am 9.20 yr hwyr, rhaglen o archif y BBC, Dilyn Afon Cletwr: T Llew Jones.
Yna, ar ddydd Sul 11 Hydref am 7.00, diwrnod canmlwyddiant geni T Llew Jones, bydd Nia Roberts yn cyflwyno pennod arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol gyda'r canu yn dod o Gapel y Tabernacl, Hendy Gwyn ar Daf lle mae ei ŵyr, Guto Llewelyn, yn weinidog.
Yn ogystal â dathliadau ar sgrin, yn yr haf fe nododd S4C y canmlwyddiant gyda helfa drysor arbennig i blant ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Cymeriad poblogaidd byd Cyw, y môr leidr Ben Dant, fu'n annog plant i ymuno yn yr helfa, a dilyn yn ôl troed chymeriadau arwrol nofelau T Llew Jones, fel y môr leidr Barti Ddu, y lleidr pen ffordd Twm Siôn Cati a'r smyglwr Siôn Cwilt.
Diwedd