Mae gwasanaeth plant meithrin S4C, Cyw, a chyfres i bobl ifanc S4C, Llond Ceg wedi derbyn enwebiadau yng ngwobrau BAFTA Plant 2015.
Cynhelir seremoni BAFTA, sydd yn gwobrwyo'r rheiny sy'n flaengar ym maes cyfryngau plant ym Mhrydain, yn Llundain nos Sul 22 Tachwedd.
Mae Cyw wedi ei enwebu am wobr sianel blant y flwyddyn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol a Llond Ceg am ddysgu oedran uwchradd.
Cyw yw gwasanaeth plant S4C sy’n cael ei ddarlledu yn ddyddiol. Boom Pictures Cymru sy'n gyfrifol am gynhyrchu dolenni Cyw a nifer o raglenni'r gwasanaeth. Ond mae nifer o gwmnïau annibynnol yn cyfrannu at y cynnwys, gyda chyd-gynhyrchiadau a phryniannau hefyd ymhlith y ddarpariaeth.
Mae Llond Ceg yn gyfres sy’n trafod materion, profiadau a phroblemau sy’n wynebu plant a phobl ifanc mewn ffordd agored, gytbwys a sensitif.
Mae disgyblion o amryw o ysgolion ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn trafodaethau yn y gyfres am bynciau fel bwlio, teulu, rhyw, hunanddelwedd, gwaith cartref ac ysgariad.
Cwmni GreenBay Media sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r rhaglen o dan arweiniad y cynhyrchwyr Llinos Griffin-Williams, Meinir Siencyn ac Aled Haydn Jones.
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C;
"Rydym ni wrth ein bodd â’r newyddion arbennig hyn ac mae’n fraint bod ein cynnwys yn cael ei gydnabod gan BAFTA, gwasanaeth Cyw yn derbyn enwebiad am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Mae Cyw yn hynod o bwysig i’r gynulleidfa ifanc a llongyfarchiadau i’r cwmnïau cynhyrchu am eu creadigrwydd wrth greu cynnwys gwreiddiol.
"Mae’n bleser clywed bod Llond Ceg, cyfres sy’n taclo pynciau hynod anodd ac yn rhoi llais a chyngor i bobl ifanc, hefyd wedi’i enwebu. Llongyfarchiadau i’r cwmni cynhyrchu am dorri tir newydd gyda’r gyfres hon.”
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?