01 Tachwedd 2015
Bydd y gyfres ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd am drydedd gyfres.
Bydd Cyfres 3, fydd yn cael ei ffilmio yng Ngheredigion, yn dechrau saethu ar leoliad yn Aberystwyth a’r cyffiniau ym mis Ionawr 2016.
Cynhyrchir y gyfres ddrama gefn-wrth-gefn yn Gymraeg a Saesneg, gyda’r gyfres yn cael ei darlledu’n gyntaf yn Gymraeg ar S4C ac yna yn y fersiwn ddwyieithog ar BBC One Wales. Mae S4C yn bwriadu darlledu'r drydedd gyfres yn ystod hydref 2016, gyda BBC Cymru yna’n darlledu’n gynnar yn 2017.
Y partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru, ynghyd ag all3media International, Tinopolis, Cronfa Gydgynhyrchu S4C a Chyllid Busnes Cymru sy’n cyd-ariannu’r cynhyrchiad, a’r cwmni teledu blaengar Fiction Factory yw’r cynhyrchwyr. Bydd Cyfres 3 yn cael ei chynhyrchu gan gyd-grewyr y gyfres Ed Talfan ac Ed Thomas.
Daw'r cyhoeddiad am y drydedd gyfres wrth i’r ail gyfres gyffrous ddod i ben ar S4C. Fe fydd yr ail gyfres yn cael ei darlledu ar BBC One Wales yn y flwyddyn newydd.
Ymysg yr enwau mawr sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer y drydedd gyfres o'r ddrama dditectif afaelgar y mae Richard Harrington fel y ditectif enigmatig, dwys ond treiddgar, DCI Tom Mathias.
Bydd y cast ar gyfer y gyfres, sydd eisoes wedi ennill llu o wobrau, hefyd yn cynnwys Mali Harries fel DI Mared Rhys ac Aneirin Hughes fel Prif Arolygydd Brian Prosser.
Mae'r gyfres yn cael ei dosbarthu’n rhyngwladol gan all3media International ac mae bellach wedi'i gwerthu i dros 30 o wledydd ac ar gael ar Netflix ledled y byd.
Dywedodd Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Ed Thomas o gwmni Fiction Factory:
"Rydym yn falch iawn o gael dechrau gwaith ar Gyfres 3, ac yn hynod ddiolchgar i'n partneriaid darlledu, S4C a BBC Cymru ac all3media International am eu cefnogaeth. Mae llwyddiant y gyfres yn destament i waith caled ein cast a'n criw dawnus ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw eto i greu Cyfres 3."
Meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd: “Mae’r ail gyfres wedi ateb ein disgwyliadau ni ac mae saernïaeth y straeon a datblygiad y cymeriadau yn parhau i ddatblygu momentwm. Roedd comisiynu trydedd gyfres yn benderfyniad cwbl naturiol i’r darlledwyr, gan fod teyrngarwch gwylwyr y gyfres, yng Nghymru a ledled y byd, yn parhau i dyfu. Mae'r comisiwn yn adlewyrchu ein balchder a’n ffydd yn y gyfres."
Dywedodd Steve Macallister, Prif Weithredwr all3media International: "Mae Y Gwyll/Hinterland yn ddrama bwerus a bythol, yn llawn cymeriadau a straeon cymhleth, ac wedi datblygu yn un o’n cyfresi oriau brig mwyaf eithriadol. Mae yna alw rhyngwladol bob amser am gyfresi pellach o ddrama o ansawdd uchel, gan eu bod yn caniatáu i ddarlledwyr a llwyfannau i adeiladu ar y dilyniant ffyddlon sydd ganddynt a chreu cyffro gyda phob cyfres newydd ac rydym yn hynod falch bod y gyfres wedi cael ei chomisiynu am y trydydd gwaith.”