Mae cân sydd wedi'i pherfformio gan y tenor Wynne Evans a chôr o weithwyr o wahanol gwmnïau ledled Cymru, yn cael ei rhyddhau fel sengl elusennol S4C yr wythnos yma.
Fe fydd 'Cân Heb ei Chanu' - cân gafodd ei hysgrifennu gan y cyfansoddwr adnabyddus Robat Arwyn, a'r geiriau gan Hywel Gwynfryn - yn cael ei ryddhau heddiw (Dydd Llun, 14 Rhagfyr) i godi arian i'r elusen, Gofal Canser Tenovus.
Fe fydd y sengl ar gael i'w phrynu oddi ar siop iTunes am 79 ceiniog, ac siopau Amazon a Google Plus am 99 ceiniog.
Yn perfformio gydag Wynne mae côr o weithwyr o dri chwmni adnabyddus yng Nghymru, sydd wedi'u ffurfio yn arbennig ar gyfer canu mewn cyfres newydd o Wynne ar Waith.
Meddai Wynne sy’n dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin, "Mae hi wedi bod yn her bersonol i ddod a chriw o weithwyr sydd erioed wedi canu nodyn o’r blaen, a’u trawsnewid yn gôr. Dyma un o’r pethau mwyaf heriol dwi wedi ei wneud yn fy mywyd, ond dwi wedi mwynhau cwrdd â gweithwyr Cymru yn fawr iawn."
Yn y gyfres, sydd yn dechrau ar ddydd Mercher, 13 Ionawr, fe fydd Wynne yn gadael ei waith bob dydd i geisio canfod talent gerddorol ymysg gweithwyr tri chwmni - Trenau Arriva Cymru, Edwards Coaches a Dŵr Cymru.
Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys: “Mae’n hyfryd cael cân arbennig wedi ei chyfansoddi Robat Arwyn, a'i hysgrifennu gan Hywel Gwynfryn - y ddau yn gwybod sut i 'sgwennu cân sy’n cyffwrdd.
“Yn sicr maen nhw wedi llwyddo i’w wneud hynny unwaith eto, gydag Wynne Evans a'r côr o weithwyr yn llwyddo i’w chanu yn wych!"
Yn ystod y gyfres bys Wynne yn ymuno â staff ar ei shifftiau yn ystod oriau gwaith ac yn cynnal ymarferion ar hyd y wlad er mwyn gweld os oes lleisiau canu yn bodoli yn y gweithleoedd hynny.
Ychwanegodd Elen Rhys: “Mae’n braf cael dod i adnabod cymeriadau o’r gweithleoedd yn y gyfres hon, a'u gweld nhw’n dod yn fyw ar y sgrin, ac yn mynd ar y siwrnai gyffrous hon gydag Wynne.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?