Bydd S4C yn dangos gêm Caerdydd yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA Emirates yn erbyn Amwythig yn fyw ar y sianel.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul 10 Ionawr, gyda'r gic gyntaf am 6.00.
Yn cyflwyno ac yn sylwebu'r rhaglen bydd tîm gwybodus y gyfres bêl-droed Sgorio, sy'n cael ei chynhyrchu gan Rondo Media.
Meddai Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler; "Rydym yn falch iawn o ddilyn un o glybiau Cymru yn y gystadleuaeth hon sydd mor agos at galonnau cefnogwyr pêl-droed y genedl. Mae gan Gaerdydd hanes hir yn y Cwpan FA, a gobeithio y bydd y gêm hon yn ddechrau ar ymgyrch lwyddiannus arall iddyn nhw eleni. Mae S4C yn falch o gynnig cefnogwyr ar draws y DU y cyfle i ddilyn y cyffro yn fyw ar deledu ac ar-lein, yng nghwmni arbenigwyr profiadol rhaglen Sgorio."
Mae’r gêm hon yn un arbennig o atyniadol, gan fod Amwythig a hanes yn estyn yn ôl degawdau o chwarae clybiau Cymru yng Nghwpan Cymru.
Maen nhw wedi ennill Cwpan Cymru chwe gwaith yn y cyfnod hynny cyn 1995 pan roedd timau pyramid Lloegr yn cael chwarae yn y gystadleuaeth.
Fe fydd y Shrews, sydd yn Adran 1, un adran yn is na Chaerdydd sydd yn y Bencampwriaeth, yn gobeithio creu ychydig o sioc yn y gystadleuaeth drwy guro Caerdydd oddi cartref.
Ond mae gan dîm y brifddinas record arbennig yng Nghwpan yr FA, a hwythau’n gyn-enillwyr yn 1927 ac wedi cyrraedd y ffeinal mor ddiweddar â 2008 gan goll i Portsmouth o 1-0.
Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104. Ac ar draws y DU ar Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166. Hefyd ar-lein ar s4c.cymru, tvcatchup.com, TVPlayer.com, YouView a BBC iPlayer.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?