Mae Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C wedi talu teyrnged i'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr drama Peter Edwards yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth.
Roedd Peter Edwards yn gyfrifol am nifer o gyfres i S4C, a'i gyfraniad yn fawr yn ystod blynyddoedd cynnar sefydlu'r sianel Gymraeg. Gweithiodd ar nifer o gyfresi drama yn y cyfnod yma gan gynnwys Mwy na Phapur Newydd, Bowen a'i Bartner a'r gyfres Yr Heliwr, oedd yn gyd-gynhyrchiad gydag ITV a ddarlledodd y fersiwn Saesneg, A Mind to Kill. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr y gyfres ddrama epig am yr Ail Ryfel Byd. Pum Cynnig i Gymro, a ddarlledwyd ar S4C a’i gwerthu’n rhyngwladol.
Bu'n bennaeth drama ITV ac yn gadeirydd TAC, y corff sy'n cynrychioli cynhyrchwyr annibynnol.
Wrth dalu teyrnged dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C; "Sioc ryfeddol oedd clywed y newyddion bod Peter Edwards wedi marw, ac yntau mor ifanc. Roedd Pete yn feddyliwr ac yn athronydd, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr ffilm a theledu hynod o ddawnus, ac roedd ganddo ymrwymiad dwfn i gyfrwng ffilm, ac i’r ymdrechion i ddatblygu a hybu ffilmiau Cymreig a Chymraeg. Roedd yn credu bod i ffilm werth mwy na diddanu’n unig, a bod iddi ran bwysig yn y gwaith o adeiladu a diffinio cenedl a chymdeithas.
"Chwaraeodd ran allweddol wrth ddatblygu’r ddrama deledu yn nyddiau cynnar S4C, gyda chyfresi cefn-wrth-gefn fel Yr Heliwr/A Mind to Kill, gyda Philip Madoc, yn torri tir newydd ac yn cael eu gweld yn rhyngwladol. Bu’n Gadeirydd ar TAC, ac ar fwrdd asiantaeth Ffilm Cymru Wales, ac roedd yn ddiwyro fel cynhyrchydd, ymgyrchydd a phwyllgorwr wrth ymladd a dadlau i gael darlledwyr, a chyrff ariannu i gefnogi’r hyn roedd yn credu ynddo. Bydd colled fawr ar ei ôl."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?