"Ein tro ni i ddweud Diolch" – S4C yn llongyfarch tîm pêl-droed Cymru
07 Gorffennaf 2016
Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones wedi llongyfarch tîm pêl-droed Cymru am ei llwyddiant yng nghystadleuaeth UEFA Euro 2016.
Fe anfodd ei neges o ddiolch a'i longyfarchiadau ar ran S4C mewn llythyr at Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford.
Mae'r llythyr wedi ei gyhoeddi isod:
Annwyl Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru,
Ar derfyn taith anhygoel yng nghystadleuaeth UEFA Euro 2016, gofynnaf yn garedig i chi anfon llongyfarchiadau gwresog, ar ran S4C, at garfan pêl-droed Cymru, y tîm hyfforddi a holl staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae'r ymroddiad a'r angerdd mae'r tîm wedi ei ddangos ar y cae, ac oddi arni, i'w ganmol. Maen nhw wedi cynrychioli ei gwlad gyda balchder a gosod Cymru ar y map ymhlith holl wledydd Ewrop.
58 mlynedd ers y tro diwethaf i Gymru gystadlu mewn prif gystadleuaeth bêl-droed, roedd cymryd rhan yn UEFA Euro 2016 yn ddigwyddiad hanesyddol i chwaraeon yng Nghymru. Rydych chi wedi rhagori ac wedi creu hanes fel y tîm cyntaf i gynrychioli Cymru mewn gêm gyn-derfynol, am y tro cyntaf erioed. Mae eich llwyddiant i gyflawni hynny, er gwaetha'r sgôr, yn destun balchder enfawr i ni.
Roedd twrnamaint UEFA Euro 2016 yn ddigwyddiad mor arwyddocaol i Gymru, roedd hi’n bwysig ei fod yn cael ei ddangos ar deledu yn nwy iaith y genedl. Roedd hi'n anrhydedd i S4C fod cefnogwyr ar draws y Deyrnas Unedig wedi gallu gwylio pob gêm Cymru yn fyw ac yn yr iaith Gymraeg ar y sianel genedlaethol.
Roedd yn bleser hefyd cael dangos negeseuon o ddiolch gan y tîm i'r cefnogwyr ar S4C, ac i glywed y Gymraeg ar wefusau'r chwaraewyr.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi clywed am falchder y chwaraewyr yn hunaniaeth Cymru, yn hanes y wlad ac yn yr iaith Gymraeg. Mae hynny wedi cyfrannu llawer at deimlad o undod ymhlith y genedl wrth i ni ymfalchïo yn ei llwyddiant. Mae ei llwyddiant wedi cael sylw ar draws Ewrop ac wedi gosod ein balchder fel cenedl yng nghanol y sylw.
Am hynny, ac wrth gwrs am y pêl-droed, dyma ein tro ni i ddweud ‘Diolch’.
Cofion cynnes
Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?