13 Gorffennaf 2016
- Gwylio S4C ar ei uchaf ers naw mlynedd
Roedd mwy o bobl yn y Deyrnas Unedig yn gwylio S4C ar deledu ac ar-lein y llynedd nac ers unrhyw amser ers naw mlynedd yn ôl Adroddiad Blynyddol S4C 2015/16 sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, Mercher 13 Gorffennaf.
Mae'r adroddiad yn dangos fod:
• 629,000 wedi gwylio S4C ar deledu bob wythnos yn y DU – y nifer uchaf ers naw mlynedd. (2014/15: 605,000)
• Cynnydd o 46% yn y sesiynau gwylio ar lwyfannau ar-lein (ers 2014/15; gyda 14,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ddim ond yn gwylio ar-lein yng Nghymru.)
• Gwylio ymysg siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ar draws teledu ac ar-lein yn parhau'n sefydlog, gyda 175,000 yn gwylio'r gwasanaeth bob wythnos.
• Gostyngiad o 5% mewn gwylwyr teledu yng Nghymru, sy'n llai na’r cwymp cyfartalog o 8% ymysg holl ddarlledwyr cyhoeddus yng Nghymru.
• Cynnydd o 244% yn yr ymgysylltu ag S4C drwy Facebook.
Mae'r Adroddiad eleni yn cael ei gyhoeddi yn ystod cyfnod pwysig a chyffrous i'r sianel, wrth i'r drafodaeth gychwyn am ei dyfodol. Ym 2017, bydd Llywodraeth y DU yn cynnal Adolygiad Annibynnol i ystyried materion yn ymwneud â chylch gorchwyl, trefniadau ariannu'r dyfodol a strwythurau S4C.
Mae deall arferion y gwylwyr yn rhan hanfodol o hynny. Mae'r ffigyrau yn yr Adroddiad Blynyddol eleni yn awgrymu fod y tuedd i chwilio am gynnwys ar lwyfannau digidol yn cynyddu ynghynt nag erioed.
Mae'r Adroddiad hwn yn cynnwys y flwyddyn lawn gyntaf ers ychwanegu sianel S4C i’r BBC iPlayer ym mis Rhagfyr 2014, ac mae effeithiau hynny i'w gweld yn glir. Mae nifer y sesiynau gwylio ar gyfer cynnwys S4C ar iPlayer wedi cynyddu 200% o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol – gyda niferoedd sesiynau gwylio drwy wefan S4C yn parhau yn sefydlog flwyddyn ar flwyddyn.
Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos i ba raddau y mae defnyddio llwyfannau newydd yn cynyddu gallu'r cyhoedd lle bynnag y maen nhw’n byw, i ddod o hyd i raglenni Cymraeg. Wrth i ffiniau technegol gael eu dileu, mae bywydau’n cael eu cyfoethogi. Mae’n rhaid i S4C osod ei hun wrth galon datblygiadau technegol o’r fath a nodi’n ofalus y ceinciau rhaglenni a’r cynnwys y mae pobl yn mynd i chwilio amdanynt ar y llwyfannau hynny – cynnwys sydd, drwy hynny, yn ymestyn ei oes a’i werth mewn ffyrdd newydd.
"Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd cefnogaeth gynnes i S4C gan weinidogion Llywodraeth ac Aelodau Seneddol ac edrychwn ymlaen yn awr at yr adolygiad a gynhelir yn 2017.
"Ein huchelgais yw medru cyflwyno gwasanaeth a darparu cynnwys sy'n adlewyrchu amrywiaeth bywyd Cymru ac yn cryfhau'r Gymraeg, sy'n cystadlu gyda'r gorau ac yn cyflwyno delwedd o Gymru yn rhyngwladol. Ein gobaith yw y bydd yr Adolygiad yn ystyried yn ofalus y math o wasanaeth cyfryngol cyfoes y mae siaradwyr Cymraeg ei angen yn ystod y ddeng mlynedd nesaf ynghyd â sut y gall S4C ei ddarparu a'i ariannu ar sail ddiogel."
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Mae mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau S4C, gyda'r nifer sydd wedi gwylio ar deledu mewn wythnos ar draws y DU ar ei uchaf ers 9 mlynedd. Mae cynnydd yn y niferoedd sy'n gwylio ar deledu ar draws y DU, ac ar-lein yng Nghymru a thu hwnt ac mae hynny'n newyddion calonogol iawn i ni ac i'r iaith Gymraeg.
"Ond yng Nghymru ry' ni wedi dysgu fod llai o bobl yn gwylio sianeli gwasanaethau cyhoeddus, gyda gostyngiad o 8% ar gyfartaledd. Mae S4C wedi gweld gostyngiad o 5%, ond beth ry' ni hefyd wedi ei weld ydi fod 14,000 o wylwyr ar-lein yng Nghymru yn wylwyr unigryw - gwylwyr sydd ddim ond yn ein gwylio ar-lein. Mae arferion yn newid ac mae pobl yn chwilio am gynnwys mewn ffyrdd gwahanol. Beth mae’r adroddiad yma yn ei wneud yn glir yw bod angen i S4C a'r iaith Gymraeg fanteisio ar y cyfleodd hynny i fod yn weledol ar y llwyfannau newydd.
"Mae cylch o heriau yn wynebu S4C yn ystod y cyfnod nesaf. Rhaid i ni ddenu sylw'r boblogaeth o fewn tirwedd cyfryngol cystadleuol, yn enwedig cartrefi cymysg eu hiaith; rhaid i ni gyrraedd y gynulleidfa dan 35 oed a chynulleidfa'r dyfodol drwy sicrhau bod modd darganfod ein cynnwys yn rhwydd; ac mae'n rhaid i ni ganfod y llwyfannau newydd sy'n boblogaidd gyda'r gynulleidfa, a sicrhau lle i S4C arnyn nhw. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau cyllid digonol i'n sianel ynghyd â pharhad ei hannibyniaeth. "
Mae Adroddiad Blynyddol S4C 2015/16 wedi ei gyhoeddi ar-lein ar wefan S4C a chopi ar gael yma.
Diwedd