Teyrnged i actor a storïwr arbennig – J.O. Roberts
20 Gorffennaf 2016
Mae S4C wedi talu teyrnged i J.O. Roberts yn dilyn y newyddion heddiw am ei farwolaeth, ddydd Mercher 20 Gorffennaf 2016.
Mae'r actor o Fôn yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn nifer helaeth o ddramâu nodedig ar hyd y blynyddoedd, ar deledu ac ar lwyfan. Yn eu plith mae sawl rôl yn portreadu arwyr y genedl - gan gynnwys portread cofiadwy o Owain Glyndŵr yn y ffilm deledu ym 1983.
Ymhlith y cyfresi nodedig eraill ar S4C mae ei rôl fel ysbïwr yn y gyfres Cysgodion Gdansk (1987); yn serennu gyda Sian Phillips yn Mae Hi'n Wyllt Mr Borrow (1984); y gyfres hiwmor cefn gwlad Hufen a Moch Bach (1983-1988); a'r ffilm Branwen (1994); a rhan Harri Vaughan yn y cyfresi Lleifior yn 1993 a 1995. Roedd hefyd yn perfformio'n gyson ar lwyfan.
Wrth dalu teyrnged, meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C;
"J.O. Roberts oedd y llais oedd yn cynrychioli darlledu safonol Cymraeg am gymaint o flynyddoedd ar y teledu a'r radio. Roedd o'n pontio'r traddodiad adrodd gyda'r grefft o actio proffesiynol ac yn cynrychioli'r gorau o'r ddau draddodiad hynny.
"Mi fu'n seren ar gyfresi a ffilmiau unigol lawer yn ystod yr 80au a'r 90au, gyda'i bersonoliaeth gref. Roedd o'n edrych y part, yn edrych ac yn swnio fel seren."
Mi fydd cyfle i fwrw golwg yn ôl ar fywyd a gyrfa fyrlymus J.O. Roberts yn y rhaglen Portreadau, a ddarlledwyd gyntaf ym 1998, sy'n cael ei dangos eto er cof amdano ar S4C nos Sul, 24 Gorffennaf 7.30.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?