01 Medi 2016
Mae rhestr enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru 2016 wedi ei chyhoeddi heddiw, dydd Iau 1 Medi 2016, gyda chynnwys S4C yn derbyn 24 o enwebiadau mewn 13 o gategorïau.
Yn arwain yr holl enwebiadau eleni mae'r gyfres ddrama Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory) sydd wedi derbyn pedwar enwebiad, gan gynnwys y trydydd enwebiad yn olynol i brif actorion y gyfres Richard Harrington a Mali Harries.
Hefyd wedi ei henwebu am wobr actor mae Catherine Ayres, am ei rôl fel y golygydd newyddion Angharad Wynne yn y ddrama Byw Celwydd (Tarian), a Mark Lewis Jones ym mhrif ran ffilm Yr Ymadawiad. Mae'r cynhyrchiad Severn Screen wedi cael ei hariannu gan Ffilm Cymru Wales ac S4C, ac yn mynd ar daith theatrau cyn darlledu ar S4C.
Mae'r dramâu Byw Celwydd a 35 Diwrnod (Apollo, Boom Cymru) yn ymddangos sawl gwaith yn y rhestr enwebiadau, gan gynnwys gwobr Drama Deledu lle mae comisiynau S4C yn hawlio tri o'r pedwar enwebiad yn y categori: Byw Celwydd, Y Gwyll/Hinterland a 35 Diwrnod.
Yn y categorïau eraill, mi fydd criw Dim Byd (Cwmni Da) yn gobeithio camu i'r llwyfan i dderbyn gwobr Adloniant BAFTA Cymru am y pedwerydd tro. Mae'r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru) yn gobeithio ychwanegu at ei casgliad sylweddol o anrhydeddau hefyd, y tro yma am ei rhaglen arbennig am y daeargryn Nepal.
Ymhlith yr enwebiadau hefyd, mai tri chynhyrchiad i blant - #Fi (Boom Cymru), Dad (Filmworks) a Y Gemau Gwyllt (Boom Cymru).
Mae Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C wedi llongyfarch pawb sydd wedi ei henwebu eleni;
Meddai Dafydd Rhys; "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ei henwebu ac i'r sector gynhyrchu annibynnol, ITV Cymru a BBC Cymru sydd unwaith eto wedi cynhyrchu blwyddyn o gynnwys rhagorol o'r safon uchaf. Dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo."
Y rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru i gomisiynau S4C yw:
Actor: Richard Harrington, DCI Tom Mathias yn Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory); Mark Lewis Jones, Stanley yn Yr Ymadawiad (Severn Screen)
Actores: Catherine Ayers, Angharad Wynne yn Byw Celwydd (Tarian); Mali Harries, DI Mared Rhys yn Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory)
Rhaglen Blant: Dad (Filmworks); #Fi: Christian a Joe (Boom Plant); Y Gemau Gwyllt (Boom Plant)
Materion Cyfoes: Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru)
Cyfarwyddwr Ffuglen: Y Gwyll/Hinterland, Gareth Bryn (Fiction Factory); 35 Diwrnod, Lee Haven Jones (Boom Cymru)
Rhaglen Adloniant: Bryn Terfel Bywyd trwy Gân (Boom Cymru a Harlequin Media; Dim Byd (Cwmni Da); Les Miserables – Y Daith i'r Llwyfan (Rondo Media)
Darllediad Byw Awyr Agored: Côr Cymru: Y Rownd Derfynol (Rondo Media); Y Sioe (Boom Cymru)
Darllediadau'r Newyddion: Argyfwng y Mudwyr (BBC Cymru)
Dylunio Cynhyrchiad: Yr Ymadawiad, Tim Dickel (Severn Screen)
Rhaglen Ddogfen Unigol: Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle (Fflic, Boom Cymru)
Effeithiau Arbennig a gweledol, Teitlau a Hunaniaeth Graffeg: SFA Y Blynyddoedd Blewog (Ie Ie Productions)
Drama Deledu: 35 Diwrnod (Apollo, Boom Cymru); Byw Celwydd (Tarian); Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory)
Awdur: 35 Diwrnod, Siwan Jones ac Wil Roberts (Apollo, Boom Cymru); Yr Ymadawiad, Ed Talfan (Severn Screen)
Bydd enillwyr y ddau anrhydedd arall, Gwobr Siân Phillips a Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad i Ffilm a Theledu yn cael eu cyhoeddi ar 22 Medi.
Bydd enillydd y Wobr Cyflawniad Arbennig am Ffilm/Ffilm Deledu yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni gwobrau BAFTA Cymru ar nos Sul 2 Hydref, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Diwedd