06 Rhagfyr 2016
Mae deg tîm o awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru wedi eu cynnwys ar restr fer cynllun ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales, a ariennir mewn partneriaeth â S4C a’r BFI, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Fields Park Entertainment a Warner Music Supervision.
Mae’r llechen yn dangos bod amrywiaeth o dalent yn cael cefnogaeth, yn ogystal ag ystod eang o straeon ac arddulliau. Meddai cynrychiolydd Ffilm Cymru Wales, Adam Partridge; “Mae’n galonogol iawn gweld fod y dalent yng Nghymru mor amrywiol, a’n bod yn medru cefnogi amrediad eang o leisiau a sawl persbectif gwahanol. Mae genres y prosiectau amrywiol yn cynnwys comedi ddoniol, ffilm arswyd aruchel, a hyd yn oed opera ar ffilm. ‘Rydym yn gobeithio fod yma rhywbeth i bawb!”
Y prosiectau a’r timau sydd wedi eu dewis yw:
Crazy Bitch - Cyfarwyddwr: Prano Bailey-Bond; Awdur: Emma Millions; Cynhyrchydd: Helen Jones
Mae menyw yn darganfod ei bod am gael babi, ac mae’r beichiogrwydd annisgwyl yn esgor ar atgofion hunllefus am fywyd arall ers talwm, ddaeth i ben mewn modd dychrynllyd dan ddwylo meddygon seiciatryddol.
Gwrach - Cyfarwyddwr: Lee Haven Jones; Awdur: Siwan Jones; Cynhyrchydd: Roger Williams
Mae menyw ifanc ryfedd yn codi ofn ar ei chyd-weithwyr mewn archfarchnad, yn y ffilm arswyd Gymraeg yma am rym natur.
Han’s Dynasty - Awdur-Gyfarwyddwr: Guymon Cheung
Yma mae bywydau tra gwahanol yn gwrthdaro mewn straeon am hil, colled a dialedd.
Lavish - Awdur-Gyfarwyddwr: Margaret Constantas; Cyfansoddwr: Judith Weir; Cynhyrchwyr: Margaret Constantas a Philip Cowan
Opera sinematig sy’n cynnwys tair chwedl alegorïaidd wedi eu lleoli yn y Gaerdydd gyfoes.
Not a True Story - Awdur-Gyfarwyddwr: Ozgur Uyanik; Cynhyrchwyr: Gareth I. Davies ac Ozgur Uyanik
Wedi cyhoeddi drama danllyd yn ei famwlad, mae bywyd dramodydd enwog o Dwrci, sydd wedi alltudio’i hun i gefn gwlad Cymru, yn dadfeilio o ganlyniad i baranoia, ac felly’n esgor ar frwydr enbyd i oroesi.
Nuclear - Cyfarwyddwr: Catherine Linstrum; Awduron: Catherine Linstrum a David John Newman; Cynhyrchydd: Stella Nwimo
Mewn pentref bach yng nghysgod gorsaf ynni niwclear, mae mam a’i merch ifanc yn chwilio am loches rhag ymosodiad erchyll, ond mae’r lloches fach yn llawn ysbrydion sy’n bygwth eu dinistrio o’r tu mewn.
The Promise - Cyfarwyddwr: Gareth Bryn; Awdur: Caryl Lewis; Cynhyrchwyr: Ed Talfan a Mark Andrew
Mae merch ifanc yn byw bywyd anodd a llwm mewn cymuned Gymreig unig ar ddiwedd y 19eg ganrif. Gan nad yw Duw’n gwrando arni, mae’n troi ei sylw at y Diafol.
Sorted - Awdur-Gyfarwyddwr: Keri Collins; Cynhyrchydd: Sarah Brocklehurst
Yn y ffilm gomedi hon mae dwy fenyw ifanc yn ceisio talu’r dyledion sydd ganddynt wedi bod yn y coleg, ac un diwrnod, wrth weithio am isafswm cyflog mewn swyddfa sy’n didoli’r post, daw cyfle euraidd i’w rhan wrth iddynt ddarganfod parsel llawn gynau, a ffotograff damniol o wleidydd lleol.
Take Me Home - Cynhyrchydd: Rik Hall
Mae menyw’n darganfod corff dyn o’r blaned Mawrth, wedi ei rewi, yn ei seler, ac yn cychwyn ar daith i fynd ag ef yn ôl i’w gartref.
The Toll - Cyfarwyddwr: Ryan Hooper; Awdur: Matt Redd; Cynhyrchydd: Tom Betts
Ffilm arswyd ddoniol am ddyn unig sy’n gweithio mewn tollborth - ac mae ei orffennol yn prysur ddal i fyny ag ef.
Bydd y timoedd ‘nawr yn symud ymlaen i’r cyfnod datblygu, sy’n cynnwys derbyn hyfforddiant a gefnogir gan gyngor sgiliau’r sector, Creative Skillset, ac a arweinir gan yr hyrwyddwr profiadol, Angus Finney, sy’n rheoli’r Farchnad Arian Cynhyrchu a’r ‘Micromarkets’ blynyddol yn Llundain. Bydd yn canolbwyntio’n arbennig ar ddatblygiad creadigol y gwaith, a hefyd ar ystyried yn ofalus pa gyfleoedd fydd ar gael i’r prosiectau yn y farchnad. Mae’r hyfforddwyr yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr sy’n gweithio yn y diwydiant, gan gynnwys y cynhyrchwyr profiadol Julie Baines (Creep, Triangle) ac Emily Leo (Under the Shadow); y cyfarwyddwr Ben Parker (The Chamber, OTM Entertainment); a chynrychiolwyr o’r byd gwerthu a dosbarthu Jezz Vernon (Port Royal London, cynt o Metrodome), a Deborah Rowland (We are the Tonic).
Meddai Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd; “Mae S4C yn falch iawn o’r ffilmiau a ddaeth i’r golwg yn sgil cynllun cyntaf Cinematig, ac yn awr yn hynod gyffrous cael bod yn rhan o’r ail gylch yma. Mae Sinematig yn gyfle i dalentau ddod i’r amlwg ym myd ffilm, ac ‘rwy’n gwbl hyderus y byddwn yn parhau i ddatblygu partneriaethau ysgrifennu gyda thalent newydd a thalent sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag annog awduron mwy profiadol i gamu i fyd ffilm am y tro cyntaf. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld y canlyniadau."
Ychwanegodd uwch swyddog y BFI, Mary Burke; “Mae’r BFI yn falch i barhau i gefnogi talent gref o Gymru drwy Sinematig, ac yn edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiectau’n datblygu yn ystod y cyfnod hwn.”
Bydd rhaglen Sinematig yn dod i ben wrth i dair ffilm gael eu dewis, eu datblygu a’u cynhyrchu. Ond fel y dywed Partridge; “Mae’r cynllun yn cynhyrchu rhywbeth llawer mwy gwerthfawr na thair ffilm orffenedig yn unig – wrth i ni geisio datblygu perthnasau a dulliau o weithio ar draws y gronfa dalent.” Mae rhai o’r ffilmiau blaenorol a gynhyrchwyd drwy Cinematic yn cynnwys y ffilm gyntaf i Craig Roberts ei chyfarwyddo, Just Jim; addasiad Euros Lyn o nofel Gymraeg Fflur Dafydd, Y Llyfrgell / The Library Suicides; a ffilm arswyd hanesyddol Chris Crow, The Lighthouse.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ffilm Cymru Wales
Diwedd