Mae S4C wedi talu teyrnged i'r cynhyrchydd teledu a'r digrifwr Gethin Thomas yn dilyn ei farwolaeth sydyn yr wythnos hon.
Wrth gofio am ei gyfraniad meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C;
"Roedd cyfraniad Gethin i'r byd comedi Cymraeg yn allweddol ac arloesol, gan roi llwyfan i ddatblygu talentau stand yp yn yr iaith Gymraeg am flynyddoedd lawer. Roedd yn angerddol ac yn flaengar dros gomedi. Mae diolch mawr iddo am ei gyfraniad gwerthfawr ac rydym yn cydymdeimlo gyda'r teulu."
Bu'n gweithio ar gyfresi comedi i S4C ers y 1990au, ac yn ddiweddar hefyd fe fu'n cynhyrchu'r gyfres Prosiect oedd yn cynnwys cyfweliadau hir gyda Rhys Ifans, Ioan Gruffydd ac Ed Holden.
Mae'r gyfres stand yp Gwerthu Allan yr oedd Gethin yn gyfrifol am ei chynhyrchu yn cael ei hail ddangos ar S4C ar hyn o bryd, gyda rhai o'r comediwyr newydd a phrofiadol yr oedd e wedi eu helpu a'u datblygu yn perfformio.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?