Anrhydedd i raglen blant, adloniant, drama ac ap gyda chwe gwobr BAFTA Cymru i brosiectau S4C
09 Hydref 2017
Mae rhaglenni S4C wedi ennill chwech o wobrau BAFTA Cymru 2017 yn y 26ain seremoni wobrwyo yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar nos Sul, 8 Hydref.
Ymhlith y gwobrau bu’r gyfres sy’n gynhyrchiad gan Cwmni Da ar gyfer plant bach, Deian a Loli yn fuddugol yn y categori Rhaglen Blant. Mae’r gyfres wythnosol boblogaidd yn dilyn helynt efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Bydd cyfres newydd yn dychwelyd ar y sgrin ddiwedd mis Hydref.
Roedd y rhaglen Taith Bryn Terfel: Gwlad y Gân (Boom Cymru) yn fuddugol yn y categori Rhaglen Adloniant mewn noson a gyflwynwyd gan y DJ BBC Radio 1, Huw Stephens yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Yn y rhaglen roedd y canwr byd enwog yn ein tywys ar daith gerddorol drwy Gymru ac yn perfformio amrywiaeth o ganeuon o’i ddewis.
Daeth Benjamin Talbott a Victoria Ashfield i'r brig am eu Cerddoriaeth Wreiddiol yn y ddrama Galesa oedd wedi ei ffilmio ym Mhatagonia gyda thrigolion y Wladfa er mwyn nodi 150 ers glaniad y Cymry cyntaf yno. Cafodd Galesa ei ysgrifennu gan Roger Williams ac yn gynhyrchiad gan ei gwmni Joio, sydd hefyd yn gyfrifol am y gyfres ddrama drosedd Bang sy’n un o ddramâu hydref 2017 ar S4C.
Roedd tîm cynhyrchu'r ffilm Y Llyfrgell yn dathlu gyda Euros Lyn yn ennill gwobr Cyfarwyddwr Ffuglen. Yn gynhyrchiad gan Ffilm Ffolyn Cyf, mae’r ffilm sy'n addasiad o nofel boblogaidd Fflur Dafydd, eisoes wedi cael llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol.
Wedi’i chynhyrchu gan Severn Screen ar gyfer S4C, enillodd Richard Stoddard wobr Ffotograffiaeth a Goleuo Ffuglen ar gyfer y ddrama dywyll Yr Ymadawiad. Mae Richard wedi ennill y wobr yn y gorffennol ar gyfer ei gyfraniad i'r gyfres dditectif sydd wedi profi llwyddiant rhyngwladol, Y Gwyll/Hinterland.
Am y tro cyntaf eleni, roedd gwobr i anrhydeddu cynnyrch mewn maes sydd yn parhau i dyfu’n aruthrol. Yr ap Brwydr y Bwystfil (Creature Battle Lab) gipiodd y wobr yn y categori Gêm. Cafodd y gêm ei datblygu gan Dojo Arcade gyda chefnogaeth Cronfa Ddigidol S4C.
Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees, “Eleni eto, mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector. Mae unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog sy’n creu cynnwys o’r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr. Llongyfarchiadau mawr i’r enwebwyr a’r enillwyr i gyd.”
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?