S4C yn dod i Langefni er mwyn clywed barn gwylwyr Ynys Môn
23 Hydref 2017
A wnaethoch chi fwynhau rhaglenni S4C o Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni? Beth yw eich barn am y ddrama newydd Bang, sydd wedi bod yn darlledu bob nos Sul? Ydych chi'n dymuno gweld rhagor o adloniant, chwaraeon neu gynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc?
Mae cyfle wythnos nesaf i bobl Ynys Môn leisio eu barn am raglenni teledu a gwasanaethau eraill y sianel deledu Gymraeg. Bydd S4C yn cynnal Noson Gwylwyr yn Llangefni, ar nos Iau 26 Hydref, ac mae croeso mawr i bawb ddod i gymryd rhan.
Mae'r noson yn dechrau am 7.00 yr hwyr yng Nghlwb Rygbi Llangefni. Bydd system loop a gwasanaeth cyfieithu ar gael i bawb sydd eu hangen. Yno i sgwrsio a thrafod bydd rhai o uwch swyddogion y sianel yn cynnwys y Prif Weithredwr, Owen Evans a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Dyma fydd y cyfle cyntaf i Brif Weithredwr newydd S4C gymryd rhan mewn Noson Gwylwyr ers iddo ddechrau ei swydd ar 2 Hydref.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C; "Dwi'n falch iawn o'r cyfle yn gynnar yn fy nghyfnod gyda S4C i gael mynd allan i gwrdd â gwylwyr. Mae cynnal Nosweithiau Gwylwyr yn weithgaredd pwysig tu hwnt, ac ar ddechrau fy nghyfnod fel hyn, mae'n gyfle da i gael darlun ehangach o farn a dymuniadau'r gwylwyr."
Ar hyn o bryd, mae dyfodol S4C yn cael ei drafod yn rhan o adolygiad o'r sianel a gafodd ei gyhoeddi gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU. Yn cadeirio'r adolygiad mae Euryn Ogwen Williams ac mi fydd ef, ac aelodau o'i dîm, hefyd yn mynychu'r noson yn Llangefni i glywed barn y gwylwyr.
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, yn esbonio, "Mae'n bleser cael dychwelyd i Fôn ar ôl wythnos ragorol yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni. Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn yr ynys am y sianel, ond hefyd i glywed am y math o wasanaeth mae gwylwyr yn dymuno ei dderbyn yn y dyfodol. Mae'r sianel mewn cyfnod ble mae llawer o drafod a phwyso a mesur am ei dyfodol, ac mae'n hanfodol bod gwylwyr yn cael llais yn yr hyn sy'n cael ei drafod."
Mae S4C yn cynnal sawl Noson Wylwyr bob blwyddyn, ac eleni mae'r sianel eisoes wedi ymweld â Chaerfyrddin a chymuned Gymraeg dinas Lerpwl. Bydd noson arall yn cael ei chynnal yn Y Fenni ym mis Tachwedd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?