S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gefnogi’r Gymraeg a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd

Yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw (dydd Iau 9 Awst, 2018) yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, mae Llywodraeth Cymru ac S4C yn cyhoeddi eu bod wedi cytuno ar egwyddorion cydweithio i gefnogi'r Gymraeg a'r nod i gynyddu'r nifer o siaradwyr.

Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y Gymraeg yw gweld miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a chynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg. Fel yr unig sianel deledu Gymraeg a'r platfform sy'n gyfrifol am gomisiynu'r nifer uchaf o oriau o gynnwys yn yr iaith, mae S4C yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddefnyddio, mwynhau a chlywed y Gymraeg o ddydd i ddydd.

Nod y cydweithio yw cyflawni buddiannau i'r Gymraeg a'r rhai sydd yn ei siarad a'i dysgu, rhannu arbenigedd, gwneud y mwyaf o fuddsoddiadau mewn prosiectau sydd yn ymwneud â'r Gymraeg a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Mae meysydd blaenoriaeth wedi eu pennu sy'n gyffredin i amcanion Llywodraeth Cymru ac S4C – sef cefnogi dysgwyr, addysg, a phlant a phobl ifanc. Yn ogystal, mae technoleg a chydweithio i sicrhau lle i'r Gymraeg ar lwyfannau a thechnoleg y dyfodol hefyd yn faes ble gall cynnwys ac arbenigedd S4C gynnig budd. Er mwyn gweithredu ar y meysydd blaenoriaeth, bydd swyddogion yn rhannu gwybodaeth, ymchwil a rhwydweithiau yn rheolaidd er mwyn adnabod cyfleoedd.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Bydd cydweithio yn cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth ac i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio o fewn ein cymdeithas. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i S4C i gydweithio gyda phartneriaid sydd eisoes yn arbenigo ac yn gweithio ym maes yr iaith gyda Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch ein bod eisoes yn datblygu ar ein perthynas gyda dau o'r rhain sef Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin."

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Dwi mor falch o gyhoeddi'r cytundeb hwn gydag S4C heddiw ac yn croesawu'r pwyslais yn yr adolygiad ar rôl bwysig maen nhw'n chwarae wrth gyflawni ein nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru yn hanfodol i lwyddo cyrraedd yr amcan hwn. Drwy rannu profiad arbenigol ym mholisi iaith, caffael iaith a thechnoleg iaith, byddwn yn cyfrannu at greu sefyllfa lle mae'n hawdd i bobl feithrin hyder yn eu Cymraeg ac i fwy o bobl ddod yn rhugl ynddi.

Rwyf wedi ymrwymo i barhau i weithio gydag S4C i gyflawni ein dyheadau ar gyfer yr iaith."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

"Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'r iaith Gymraeg ac i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd gan DCMS yn gynharach eleni, rwy'n falch iawn bod S4C a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i dyfu ac i arallgyfeirio nifer y siaradwyr Cymraeg.

"Mae digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn rhoi llwyfan perffaith i lansio mentrau fel hyn, mae'r Maes agored a chynhwysol yn darparu safle i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac i ymgysylltu â mwy o bobl sy'n dysgu'r iaith a gwylio cynnwys Cymreig."

Mae'r cydweithio eisoes ar waith.

DIWEDD

Nodiadau

Cyhoeddwyd 'Creu S4C ar gyfer y dyfodol', adolygiad annibynnol o gylch gwaith, dulliau ariannu a llywodraethiant S4C gan Euryn Ogwen Williams ar gyfer Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU, ar 29 Mawrth 2018.

Argymhelliad 3 yr adolygiad oedd: Dylai S4C sefydlu partneriaeth iaith gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i helpu cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae S4C yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio, mwynhau a chlywed y Gymraeg ar ystod o blatfformau. Gyda gwasanaethau fel Cyw i blant bach, Stwnsh i blant hŷn, y brand ar-lein Hansh, cynnwys dysgwyr, dramâu sy'n gwerthu'n rhyngwladol, adloniant, rhaglenni ffeithiol a chwaraeon at ddant pawb, mae ei gwasanaethau yn cyrraedd cynulleidfa eang.

Llywodraeth Cymru

Mae Cymraeg 2050 sydd yn canolbwyntio ar dair thema:

1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

2. Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg

3. Creu amodau ffafriol—seilwaith a chyd-destun

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?