S4C a theledu Llydaw yn cyd-gynhyrchu am y tro cyntaf
Bydd S4C a theledu Llydaw yn cyd-gynhyrchu dwy raglen ddogfen eleni am y tro cyntaf erioed.
Cyhoeddwyd hyn ar faes y Brifwyl yn y Bae ac ar faes yr ŵyl Geltaidd yn Lorient trwy Facebook Live yr un pryd.
Mae criw ffilmio o Lydaw ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon, yng nghwmni'r awdur, Prifardd a'r darlledwr Aneirin Karadog, a fydd yn cyflwyno'r ddwy raglen.
Cafodd Aneirin ei fagu yn bennaf ym Mhontypridd, ac gan fod ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro, mae'n rhugl yn y Gymraeg a'r Llydaweg. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y bardd cadeiriol y byddai ef a'i deulu yn symud i Lydaw ym mis Medi.
Bydd y rhaglen ddogfen Lydaweg yn edrych ar draddodiad yr Eisteddfod a'r iaith Gymraeg a'n diwylliant, tra bydd rhaglen ddogfen S4C yn edrych ar fywyd newydd Aneirin yn Llydaw a chymdeithas a bywyd yn y wlad honno. Cwmni Tnopolis sy'n cynhyrchu'r ddogfen ar gyfer S4C.
Meddai Mael Le Guennec, Comisiynydd France Television 3 - Llydaw, sydd yn darlledu ychydig oriau yn Llydaweg yn wythnosol ar orsaf FT3, "Roeddem wedi penderfynu cynhyrchu rhaglen am yr Eisteddfod, a phan ddechreuodd S4C drafod, gwelsom gyfle i gydweithio gyda'n gilydd am y tro cyntaf. Roedd medru cadarnhau hynny yn ystod yr Ŵyl yn Lorient a'r Eisteddfod yn wych a gobeithio medrwn adeiladu ar hyn yn y dyfodol."
Dywedodd Llinos Wynne, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Rydym wedi cydweithio gyda darlledwyr mewn gwledydd Celtaidd eraill dros y blynyddoedd, ond mae hwn yn gyfle arbennig i gydweithio efo Llydaw am y tro cynta' a 'da ni'n falch iawn o gael helpu ar gynhyrchu'r rhaglen yma. Mae'n bwysig ein bod ni fel gwledydd Celtaidd yn cefnogi'n gilydd, ac yn yr achos yma 'da ni'n cael cefnogi diwylliant yn Llydaw, sydd â llwyfan cymaint yn llai na sydd gennym ni yng Nghymru, ond sydd yr un mor bwysig i ddiwylliant ac i barhad yr iaith. Dwi'n gobeithio y gallwn gydweithio'n fwy aml, ac y bydd hynny'n hefyd gyfle i ni ddysgu mwy am ein gilydd."
diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?