• Mae S4C wedi datgelu'r tîm fydd yn cyflwyno gemau tymor Guinness PRO14
• BBC Cymru fydd yn cynhyrchu prif gyfres rygbi'r sianel, Clwb Rygbi
• S4C yw'r unig ddarlledwr sydd wedi dangos gemau'r gynghrair yn fyw bob tymor ers iddi ffurfio yn 2001.
Mae Prif Weithredwr S4C yn falch fod y sianel yn 'arwain y gad fel darlledwr rygbi yng Nghymru', wrth i S4C gyhoeddi'r tîm cyflwyno ar gyfer ei phrif raglen rygbi cyn y tymor newydd.
Y mis diwethaf, cyhoeddwyd fod S4C wedi ennill yr hawl i ddangos rygbi Guinness PRO14 am y tair blynedd nesaf. Mae'r cytundeb newydd yn golygu mai S4C yw'r unig ddarlledwr sydd wedi dangos gemau'r gynghrair bob tymor ers iddi ffurfio yn 2001.
Bydd 17 o gemau tymor 2018/19 yn fyw ar S4C, sy'n cynnwys gemau darbi dros gyfnod y Nadolig a'r Calan ac os yw rhanbarth o Gymru yn cyrraedd y rownd derfynol mi fydd y gêm fawr honno hefyd yn fyw ar S4C. Mi fydd gemau eraill hefyd yn cael eu dangos yn llawn, ond nid yn fyw. Bydd BBC Cymru yn parhau i gynhyrchu Clwb Rygbi ar ran S4C.
Mae'r cytundeb gyda'r Guinness PRO14 yn hwb gwerthfawr i ddarpariaeth rygbi cynhwysfawr y sianel, sy'n cynnwys rygbi ar bob rheng: o gynghrair y colegau a rygbi ieuenctid rhanbarthol, i gemau Uwch Gynghrair y Principality a'r cwpanau cenedlaethol, a gemau rhyngwladol ieuenctid, merched a dynion Cymru.
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Mae rygbi yn rhan o hunaniaeth Cymru ac mae ein gwlad angerddol ni yn cael ei hadnabod fel un o brif lysgenhadon y gamp. Mae S4C yn gefnogwyr triw i rygbi ar bob lefel yng Nghymru ac rydym yn arwain y gad wrth gynnig amrywiaeth eang, heb-ei-ail.
"Y Guinness PRO14 yw bara menyn y pedwar rhanbarth yng Nghymru ac rydw i'n falch iawn ein bod ni'n dangos gemau o un o brif #gystadlaethau rygbi'r byd, yn rhad-ac-am-ddim ar S4C. Fel darlledwr sydd wedi bod yno ers i'r gynghrair gael ei sefydlu yn 2001 mae gwylwyr yn gwybod eu bod nhw mewn dwylo diogel wrth wylio'r Guinness PRO14 ar S4C."
Gareth Rhys Owen fydd yn arwain tîm cyflwyno cyfres y Clwb Rygbi, gyda Catrin Heledd yn gohebu ar yr ystlys, a'r lleisiau profiadol ac adnabyddus, Gareth Charles a chyn-gapten Cymru Gwyn Jones yn sylwebu. Ymysg y tîm fydd yn trin a thrafod bydd y cyn chwaraewyr rhyngwladol, Nicky Robinson, Andrew Coombs, Dafydd Jones, Deiniol Jones, Caryl James a chefnwr Cymru, Dyddgu Hywel.
Fe fydd y tîm yn cael ei gyflwyno i'r wasg yn ystod lansiad Clwb Rygbi yng nghartref rygbi Cymru, y Stadiwm Principality, ar brynhawn dydd Iau 16 Awst.
Dywedodd Gareth Rhys Owen, cyflwynydd Clwb Rygbi; "Y Guinness PRO14 yw un o brif gynghreiriau rygbi'r byd ac rydw i'n edrych ymlaen at allu dangos yr holl gyffro fel rhan o dîm Clwb Rygbi. Fe fydd ein panel gwybodus yn dadansoddi'r gemau ac yn trafod yr holl bynciau dadleuol, wrth i ni wylio'r timau'n brwydro ar gyfer tymor arall o rygbi cyffrous."
Dywedodd Martin Anayi, Prif Weithredwr Rygbi PRO14; "O'r cychwyn gyntaf yn 2001, mae S4C wedi bod yn rhan o'r daith gyda'r gynghrair ac wedi darlledu sawl digwyddiad bythgofiadwy, gan gynnwys chwe phencampwriaeth i ranbarthau Cymru, ac wedi dilyn datblygiad anhygoel y gynghrair.
"Mae gallu cynnal y berthynas yma rhwng y gynghrair a'r sianel yn werthfawr iawn i bawb, yn cynnwys rygbi Cymru ac wrth gwrs, S4C. Roedd gallu dangos rygbi am ddim gyda sylwebaeth Gymraeg yn bwysig iawn i ni wrth osod ein huchelgais ar gyfer y tair blynedd nesaf, a dw i'n gobeithio fod cefnogwyr rygbi Cymru yn edrych ymlaen at hynny.
"Mae'r Guinness PRO14 yn wahanol iawn i'r gystadleuaeth a gychwynnodd 17 mlynedd yn ôl, ac wrth iddi dyfu, mae S4C wedi bod yno bob cam o'r ffordd. Rydw i'n falch iawn ein bod ni'n parhau i weithio gyda S4C wrth i'r Guinness PRO14 symud tuag at bennod newydd a chyffrous yn ei hanes."
Diwedd
Nodiadau:
Mae Gareth Rhys Owen yn ddarlledwr chwaraeon profiadol sydd wedi arwain tîm cyflwyno Clwb Rygbi ers tymor 2016/17. Yn y blynyddoedd diweddar, mae Gareth wedi ennill amlygrwydd fel sylwebydd rygbi medrus drwy weithio ar gemau ar ran BT Sport, BBC Cymru ac S4C. Yr haf hwn, roedd Gareth yn rhan o dîm BBC 5Live, yn sylwebu'n fyw ar bob cymal Le Tour de France, ac yn ymddangos yn rheolaidd ar y podlediad dyddiol poblogaidd, Bespoke, yn ystod y ras, ac mae wedi gohebu ar gampau di-rif yn ystod ei yrfa, yn cynnwys Gemau'r Gymanwlad.
Mae Catrin Heledd yn wyneb cyfarwydd i gefnogwyr rygbi Cymru fel gohebydd ar gyfer Clwb Rygbi a rhaglen Scrum V. Mae Catrin wedi gohebu ar sawl llwyddiant nodedig ym myd chwaraeon Cymru, gan gynnwys Cwpan Rygbi'r Byd 2015, UEFA Euro 2016, a Gemau'r Gymanwlad eleni. Ar ddechrau mis Awst, roedd Catrin yn annerch y dorf ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd wrth ddathlu llwyddiant hanesyddol Geraint Thomas yn Le Tour de France.
Mae gan Gareth Charles un o'r lleisiau mwyaf adnabyddus ym myd rygbi Cymru, ac ers tymor 2014/15 mae wedi bod yn brif sylwebydd i gyfres Clwb Rygbi ar S4C. Yn ystod ei yrfa lwyddiannus gyda BBC Cymru, mae Gareth wedi sylwebu ar y gamp drwy gyfnod o drawsnewid yn nhirlun rygbi Cymru; o ddyddiau'r gêm amatur i'r byd proffesiynol presennol. Yn ystod ei yrfa fel sylwebydd ers 1985,, bu Gareth yn dyst i'r cyfan: o deithiau Llewod Prydain ac Iwerddon, i Gwpanau'r Byd, i bencampwriaeth y 5 Gwlad ac yna'r 6 Gwlad.
Dr Gwyn Jones yw un o brif ddadansoddwyr rygbi yng Nghymru. Fel chwaraewr, fe enillodd 13 cap dros Gymru, gyda phump o'r rheini fel capten. Fel blaenasgellwr dawnus, fe chwaraeodd Gwyn dros Lanelli a Chaerdydd, cyn i'w yrfa ddod i ben yn ddisymwth pan roedd ddim ond yn 25 mlwydd oed, yn dilyn anaf difrifol i'w gefn. Ers hynny, mae Gwyn wedi ennill parch fel sylwebydd gyda gweledigaeth unigryw. Mae barn Gwyn yn un anodd iawn i'w hanwybyddu, ac mae ei sylwadau dadleuol ar y sgrin ac fel colofnydd cyson i'r Western Mail a Wales Online, wedi selio ei enw da fel rhywun sy'n siarad gydag awdurdod am y gamp.
Gemau S4C ym mis Medi:
01/09: Ulster v Scarlets - 5.00 (Yn Fyw)
02/09: Gleision Caerdydd v Leinster – 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
08/09: Gweilch v Cheetahs – 5.15 (Yn Fyw)
09/09: Scarlets v Leinster – 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
15/09: Scarlets v Benetton – 5.00 (Yn Fyw)
16/09: Munster v Gweilch - 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
22/09: Dreigiau v Zebre - 5.00 (Yn Fyw)
23/09: Cardiff Blues v Munster – 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
29/09: Scarlets v Southern Kings - 6.15 (Yn Fyw)
30/09: Gleision Caerdydd v Cheetahs – 3.45 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
Sut i wylio S4C:
Mae S4C ar gael ar: Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru
Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166 yn Lloegr, tu allan i Gymru
Yn fyw ar-lein ac ar alw am 35 diwrnod drwy S4C Clic; ar-lein neu thrwy ddefnyddio'r ap