Cadeirydd S4C yn diolch i Guto Harri am ei wasanaeth
Yn sgìl penderfyniad S4C i gomisiynu dwy gyfres bellach o "Y Byd yn ei Le" gan ITV Cymru - y gyfres lle mae Guto Harri yn herio gwleidyddion ac yn sylwebu ar bynciau'r dydd, mae Guto Harri wedi penderfynu ymddiswyddo fel aelod o Awdurdod S4C er mwyn canolbwyntio ar waith darlledu a newyddiadura ac er mwyn osgoi unrhyw ganfyddiad o wrthdaro buddiannau.
Meddai Guto Harri: "Fe fu'n fraint ac yn bleser cael helpu'r Cadeirydd, Awdurdod a thîm rheoli S4C i roi'r sianel yn ôl ar dir cadarn o ran cyllid, cynulleidfa a chyfeillion. Dan arweinyddiaeth newydd Owen Evans ac Amanda Rees mae'r dyfodol yn gyffrous a llawn addewid"
Dywedodd Cadeirydd S4C Huw Jones: "Mae Guto wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr ac egnïol dros y pedair blynedd y bu'n aelod o Awdurdod S4C, ac fe fydd yn arw gennym ei golli ei fel aelod. Wrth gwrs rydym yn falch fod ei sgiliau a'i brofiad newyddiadurol ar gael ar sgrin S4C unwaith yn rhagor, ac rydym yn edrych ymlaen at y gyfres newydd o "Y Byd yn ei le".
Bydd Y Byd yn ei le yn ôl ar S4C nos Fawrth nesaf 18 Medi 2018.
DIWEDD
Nodiadau
Mae aelodau Awdurdod S4C yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Roedd Guto Harri yn aelod o Awdurdod S4C er 9 Gorffennaf 2014 a byddai ei dymor wedi rhedeg hyd 8 Gorffennaf 2020. Ei gyfarfod olaf fydd 27 Medi 2018.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?