04 Hydref 2018
Heddiw, mae BBC Cymru, BBC One ac S4C yn cyhoeddi bod y ddrama hynod lwyddiannus Un Bore Mercher / Keeping Faith wedi ei gomisiynu am ail gyfres sydd bellach mewn cynhyrchiad.
Gyda Eve Myles (Victoria/Broadchurch/A Very English Scandal) yn serennu bydd y gyfres nesaf o'r ddrama gyffrous yn cael ei ddarlledu ar draws y DG y flwyddyn nesaf.
Darlledwyd y gyfres gyntaf yn Gymraeg fel Un Bore Mercher, ac yna yn Saesneg yng Nghymru ar BBC One Wales. Derbyniodd Keeping Faith gynulleidfaoedd rhagorol ac aeth y gyfres ymlaen i dorri record BBC iPlayer. Yn ystod yr haf, dangoswyd y gyfres ar deledu rhwydwaith ar draws y DG - y tro cyntaf i gynhyrchiad drama teledu ar y cyd rhwng BBC Cymru / S4C fynd allan ar BBC One.
Fe'i datblygwyd yn wreiddiol gan S4C fel Un Bore Mercher, ac fel Keeping Faith ar gyfer BBC Cymru. Cynhyrchwyd y gyfres gan Vox Pictures mewn cydweithrediad ag APC/Nevision gyda chymorth Cyllid Busnes Cymru. Cafodd ei chyfarwyddo gan Pip Broughton a'i hysgrifennu gan Matthew Hall.
Mae'r ddrama'n adrodd hanes Faith Howells (Myles) cyfreithiwr, gwraig a mam, a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr. Bydd cyfres dau – sydd wedi ei ysgrifennu gan Matthew Hall a Pip Broughton - yn ymuno â hi wrth iddi ymdrechu i godi darnau ei bywyd a'i phriodas.
Meddai Eve Myles: "Rwy'n falch iawn bod y ddrama wych hon wedi canfod y fath le yng nghalon y gynulleidfa ac rwy'n hynod hapus o fod yn ôl yn nhirwedd hardd gorllewin Cymru, gan weithio gyda thîm creadigol a thalentog iawn - mae'n bleser. "
Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: "Ac anadlwch... Mae Keeping Faith 2 mewn cynhyrchiad. Does wybod beth fydd yn digwydd i Faith nesa' ond un peth sydd tu hwnt i bob amheuaeth yw gallu Eve Myles i gyfareddu'r genedl am yr ail dro. Rydym yn mwynhau cyfnod anhygoel i ddramâu Cymreig ar hyn o bryd ac mae'n hynny'n mynd i barhau. Mae'n enghraifft wych o'r hyn sy'n bosibl pan fydd darlledwyr fel BBC Cymru ac S4C yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiectau o raddfa ac uchelgais. Nawr, ble mae fy nghôt felyn!"
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres gyntaf, rydyn ni wrth ein bodd y bydd gan ddilynwyr Un Bore Mercher gyfle i ysgwyd y llwch oddi ar eu macs melyn a mwynhau'r ail gyfres hir ddisgwyliedig pan fydd yn cael ei ddarlledu, yn gyntaf at S4C ac yna ar y BBC y flwyddyn nesaf. Mae'r ddrama eithriadol hon wedi cydio yn nychymyg y gynulleidfa ac mae'n dangos y gall pethau gwych ddigwydd pan fydd darlledwyr yn ymuno ac mae'n dyst i'r talentau actio a chynhyrchu rhagorol sydd gan Gymru i'w gynnig."
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i ddenu cynyrchiadau teledu a ffilm o safon i Gymru, ac i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y manteision economaidd sy'n gysylltiedig. Y ddwy flynedd ddiwethaf fu ein prysuraf eto wrth gefnogi teledu a ffilm - gyda chynyrchiadau proffil uchel fel Un Bore Mercher/Keeping Faith yn cryfhau enw da Cymru fel lleoliad ffilmio heb ei ail."
Meddai Adrian Bate, Cynhyrchydd Gweithredol Vox Pictures: "Ar ôl llwyddiant ysgubol aml-lwyfan y gyfres gyntaf, mae Vox wrth eu bodd o gael gweithio eto gyda'r BBC, S4C a Nevision i ddod ag Un Bore Mercher a Keeping Faith yn ôl am ail gyfres sy'n addo bod yn llawn penbleth emosiynol i Faith a'i theulu."