09 Hydref 2018
A'r enillydd yw...
Mae Cymru wedi dewis! Manw yw enillydd cyfres S4C Chwilio am Seren a hi fydd y gantores ifanc gyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y Junior Eurovision ym Melarus ym mis Tachwedd.
Cafodd Manw, sy'n wreiddiol o Rostryfan, ei dewis yn enillydd gan bleidlais gyhoeddus fyw mewn noson arbennig heno (Hydref 9) yn Venue Cymru, Llandudno. Meddai Manw:
"Dwi methu coelio'r peth! Dwi mor hapus. Mae hi'n gymaint o fraint cael cynrychioli fy ngwlad yn Junior Eurovision. Dwi mor falch o gael y cyfle i wneud hyn dros Gymru.
"Diolch i bawb am y gefnogaeth ac am fy helpu i. Mae pawb wedi bod mor gefnogol ar hyd y daith. Mae'r genod eraill wedi bod mor neis ac mor gefnogol - diolch i bawb!"
Dros yr haf, aeth S4C, a'r cwmni cynhyrchu Rondo Media, ar daith i chwilio am sêr ifanc i gystadlu o dan faner Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest mewn cyfres o glyweliadau cyhoeddus, ac fe gafwyd neuaddau llawn perfformwyr ifanc yn awyddus i hawlio eu lle fel Seren Junior Eurovision.
Ym mis Medi, mewn cyfres o bedair rhaglen Chwilio am Seren Junior Eurovision ar S4C, fe wynebodd unigolion a grwpiau panel o fentoriaid o'r radd flaenaf - Connie Fisher, Stifyn Parri a Tara Bethan.
Roedd gofyn iddynt ddewis 20 o'r perfformwyr i symud ymlaen at y broses fentora ac yna roedd rhaid i'r tri ddewis y chwech gorau i gystadlu yn y rownd derfynol heno yn Llandudno.
Tara Bethan oedd mentor Manw. "Dwi mor falch o Manw! Mae'r cyfoeth o dalent dy'n ni wedi gweld heno yn profi pam fod Cymru yn cael ei galw yn Wlad y Gân."
Ond, ar ddiwedd y dydd, nid y mentoriaid oedd yn cael dewis y gantores fuddugol, ond y gwylwyr. Yn ystod y rhaglen fyw heno dangosodd y cyhoedd eu barn drwy bleidleisio am eu ffefryn i gynrychioli Cymru.
Manw enillodd bleidlais y cyhoedd, a hi fydd yn perfformio "Hi yw y Berta", can wreiddiol gan Yws Gwynedd, ym Melarws fis Tachwedd.
Eleni, yw'r tro cyntaf erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest.
Yn Ewrop, does yr un sioe sy'n cymharu â'r Eurovision Song Contest. Mae'r chwaer gystadleuaeth i berfformwyr ifanc 9-14 oed yn gynhyrchiad yr un mor uchelgeisiol, ac yn denu sylw o bob cornel o Ewrop a thu hwnt. Mae miloedd o bobl yn dod i wylio'r gystadleuaeth yn fyw, ac mae miliynau yn rhagor yn gwylio ar deledu mewn degau o wledydd ar draws y cyfandir.
Yn ymuno â Chymru yn yr ornest fawr bydd 20 o wledydd eraill yn cynnwys Rwsia, Yr Wcráin, Ffrainc a Kazakhstan i enwi dim ond rhai.
Mi fydd y brif gystadleuaeth yn cael ei darlledu'n fyw o Minsk, Belarws, ar S4C, ar brynhawn Sul, 25 Tachwedd am 3.00yp.