15 Hydref 2018
Bydd y darlledwr o Gymru, S4C yn dathlu blwyddyn o lwyddiant o ran drama a chyd-gynyrchiadau ffeithiol yn MIPCOM eleni.
Bu'n flwyddyn gofiadwy i'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg ei hiaith, gyda thair drama yn llwyddo yn fasnachol ac yn llygaid y beirniaid: Bang (Joio ac Artists Studio), drama drosedd a enwebwyd am wobr Writers' Guild; Un Bore Mercher/Keeping Faith (Vox Pictures), cyfres ddrama wreiddiol gan S4C/BBC Wales gydag Eve Myles yn serennu. Cafodd y ddrama ei dangos ar BBC One ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae hi wedi torri'r record am ffigurau gwylio ar iPlayer; a Craith/Hidden (Severn Screen), drama drosedd seicolegol ddwyieithog a ddarlledwyd gan S4C a BBC Wales ac sydd wedi bod yn boblogaidd ar draws y DU.
Bydd y tair drama yn dychwelyd i'r sgrin yn 2019.
Yn ogystal, mae MHz Networks, darlledwr cyhoeddus o America wedi prynu'r hawliau i ddarlledu drama wreiddiol arall gan S4C yn America a Chanada, sef Byw Celwydd (Tarian).
Bydd dwy gyfres ffeithiol hir ddisgwyliedig yn cael eu darlledu ar y sianel ddiwedd 2018 a dechrau 2019.
Mae Y Wal/The Wall/An Balla (Rondo Media) yn gyfres chwe phennod amserol sy'n edrych ar y gwledydd a'r cymunedau sy'n cael eu rhannu gan waliau, gan gynnwys Israel a'r West Bank, Korea a wal adnabyddus Donald Trump i wahanu UDA a Mecsico. Mae'r gyfres yn gyd gynhyrchiad rhwng S4C, o Gymru, JTV o dde Korea a'r darlledwr Gwyddelig TG4. Mae KCA Korea a Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r gyfres. Mae'r gyfres, sy'n cael ei adrodd gan enillydd Emmy 2018 ar gyfer yr Actor Gorau, Matthew Rhys, yn cael ei dosbarthu'n fyd-eang gan Cineflex, ac mae realscreen wedi enwi'r gyfres fel un mae'n rhaid ei gweld. Bydd Y Wal yn cael ei darlledu o fis Tachwedd 2018 ymlaen.
Mae'r ail gyfres, Llanw/Tide (Cwmni Da/Mac TV), yn treiddio i'r berthynas anystywallt sy'n bodoli rhwng dynoliaeth a'r môr mewn gwahanol rannau o'r byd. Mae'r gyfres wedi cael cefnogaeth gan S4C, TG4, BBC ALBA, BBC Northern Ireland, ac mae, LIC, cynhyrchwyr annibynnol mwyaf China hefyd ynghlwm. Bydd Llanw yn cael ei ddarlledu o Ebrill 2019.
I ddathlu'r llwyddiannau hyn ac i drafod cynlluniau S4C am y flwyddyn nesaf, bydd S4C yn cynnal digwyddiad yn y Grand Hotel yn Cannes, yn ystod MIPCOM.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys: "Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle euraidd i ddathlu yr hyn a gyflawnwyd eisoes, ond hefyd i rannu ein gweledigaeth ar lle ry'n ni'n mynd nesa'. Mae ein llwyddiannau diweddar wedi rhoi platfform anhygoel i ni lansio rhan nesaf ein strategaeth ddrama cydweithrediadol a rhyngwladol, sy'n addo dod â'r byd i Gymru a Chymru i'r Byd"
Meddai Llion Iwan, Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C: "Hon oedd y flwyddyn orau o ran llwyddiant cyd gynyrchiadau drama a ffeithiol i S4C, ac rydyn ni'n edrych ymlaen i adeiladu ar y llwyddiant hynny dros y flwyddyn nesaf."