16 Hydref 2018
Fe fydd cyfres ddrama wleidyddol sydd wedi diddanu gwylwyr yng Nghymru yn cael ei ddangos ar hyd Ewrop, Israel a De Affrica.
Mae'r darlledwr LGBT rhyngwladol, OUT TV, wedi sicrhau hawliau i ddangos y gyfres Byw Celwydd yn: Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Luxembourg, Sweden a gwledydd eraill Sgandinafia sy'n siarad Swedaidd, Yr Almaen, Awstria, Y Swistir, Gwlad Pwyl, Slofacia, Gweriniaeth Tsiec, Slofenia, Hwngari, Sbaen, Israel a De Affrica. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu yn y Gymraeg, gydag is-deitlau Saesneg.
Cafodd y gwerthiant ei drefnu gan y dosbarthwyr Videoplugger, dan arweiniad perchennog y cwmni, Emanuele Galloni.
Syniad Branwen Cennard, cyfarwyddwr cwmni Tarian Cyf, a'r diweddar ddramodydd Meic Povey yw'r gyfres, sy'n dilyn cymeriadau ffuglennol llywodraeth glymblaid enfys.
Mae Byw Celwydd yn adrodd hanes y berthynas rhwng grŵp o bleidiau gwleidyddol ffuglennol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â'u cynghorwyr arbennig a'r newyddiadurwyr gwleidyddol o'u cwmpas.
Ymhlith sêr y gyfres mae Matthew Gravelle, a oedd yn serennu yn nrama Broadchurch ITV, ac sy'n chwarae rhan y cynghorydd arbennig Harri James; a'r actores Catherine Ayers, sy'n chwarae'r newyddiadurwr Angharad Wynne.
Dywedodd Cynhyrchydd Byw Celwydd, Branwen Cennard: "Rwy'n teimlo'n falch iawn fod cynhyrchiad hollol Gymraeg, wedi'i ysgrifennu a'i ffilmio mewn cyd-destun cwbl Gymreig, wedi dal dychymyg darlledwr rhyngwladol arall. Mae'n adlewyrchu'r gwerthoedd cynhyrchu uchel sy'n gysylltiedig â Byw Celwydd ac yn profi y gall cynhyrchwyr Cymru greu cyfresi sydd ag apêl rhyngwladol eang. Mae diddordeb OUT TV yn adlewyrchu natur gynhwysol ac eang Byw Celwydd."
Dywedodd Marc Putman, perchennog a Phrif Weithredwr OUT TV: "Nid yn aml iawn ydyn ni'n darganfod cyfres deledu o'r safon yma. Byw Celwydd yw'r fersiwn Gymraeg o'r gyfres wleidyddol boblogaidd o Ddenmarc, Borgen. Rydym yn grediniol ei bod hi'n bwysig fod y gymuned LGBT yn fwy gweledol yn y dirwedd gyfryngol. Rydym yn ddiolchgar ac yn falch iawn i gael y gyfres hon ar OUT TV."
Dywedodd Emanuele Galloni, Videoplugger.com: "Rydym yn falch iawn o allu lledaenu cyrhaeddiad y gyfres wych hon, ac yn credu y bydd yr elfen LGBT yn creu argraff ar y gynulleidfa OUT TV."
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae'n wych bod cyfresi gwreiddiol Cymraeg yn cael ei dangos i gynulleidfaoedd ledled y byd, a dw i'n credu y bydd gwylwyr yn Ewrop, Israel a De Affrica yn cael ei tynnu mewn gan natur fyrlymus a chymhleth Byw Celwydd."