24 Hydref 2018
Mae tîm Garddio a Mwy wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig iawn gyda chymuned leol ardal Trawsfynydd i greu gardd yn Yr Ysgwrn - sef cartref y bardd Hedd Wyn a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
Fel rhan o'r gyfres boblogaidd mae'r tîm - Sioned ac Iwan Edwards a Meinir Gwilym yn cynnig cymorth i bobl sydd eisiau gweddnewid eu gerddi.
Pan holodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am eu cymorth i greu gardd arbennig ar gyfer Yr Ysgwrn - roedd y tîm wrth eu boddau. Roedd yn dipyn o fraint yn enwedig o gofio fod canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr ar Dachwedd 11 eleni.
"Er bod y ffermdy a'r ganolfan ymwelwyr wedi eu cwblhau," esboniodd Euros Wyn o Cwmni Da sydd yn cynhyrchu Garddio a Mwy. "...doedd yr ardd heb ei chyffwrdd."
"Roedd dwy safle i ni weithio gyda nhw - un reit o flaen y ffermdy ac un drws nesa' - a gobaith yr Awdurdod oedd i ni wneud rhywbeth gyda'r ardd oedd yn amgenach i beth oedd yna o'r blaen."
Esboniodd Meinir Gwilym - un o gyflwynwyr rhaglen Garddio a Mwy am yr heriau a wynebodd y tîm: "Doedd yr Awdurdod dim eisiau mynd yr holl ffordd yn ôl i gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ond o'n nhw eisiau cadw naws y cyfnod.
"Roedd yn bwysig iddyn nhw fod yr ardd yn ddefnyddiol i'r gymuned fel mae hi heddiw. Felly'r sialens oedd cadw'r math o bethau roedden nhw'n dyfu yn y cyfnod ond yn defnyddio syniadau oedd yn addas i ymwelwyr heddiw.
"Roedd rhaid ystyried, oherwydd hanes Yr Ysgwrn, mai nid gardd i dyfu llysiau yn unig oedd hon i fod, ond rhywle i ymwelwyr gael eistedd ac i fynd i feddwl hefyd."
Mae'r rhaglen yn ymweld â'r ysgol leol sef Ysgol Bro Hedd Wyn gydag Iwan Edwards yn sôn i'r plant am y math o ffrwythau oedd ar gael gan mlynedd yn ôl.
"Roedd yn bwysig iawn ein bod ni yn creu lle i'r gymuned a'r ysgol, yn enwedig, i ddod i dyfu bwyd efallai, neu greu cynnyrch allan o'r afalau a'r llwyni cyraints rydym ni wedi plannu fel rhan o'r prosiect," meddai Meinir.
"Mi aethon ni ati greu raised beds er mwyn hwyluso pethau i aelodau hyn o'r gymuned neu i blant sy'n dod i'r Ysgwrn i arddio. Cawsom ni goed gan fferm leol i greu'r raised beds mewn ffordd draddodiadol." Aeth Sioned Edwards ati i weithio ar ardd flodau gwyllt gan ddefnyddio y cyfeiriadau at flodau gwyllt sydd I'w weld ym marddoniaeth Hedd Wyn.
Ar ddiwedd y prosiect daeth pawb at ei gilydd ar gyfer yr agoriad swyddogol i ddathlu'r prosiect.
"Roedd y profiad yn un go arbennig," meddai Meinir.
Noddir Garddio a Mwy gan Canolfan Garddio Frongoch Garden Centre