Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Jeremy Wright CF, AS a Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru Yr Arglwydd Bourne yn agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin heddiw, dydd Iau, 8 Tachwedd 2018 am 11.30 y bore.
Yn ystod eu hymweliad byddant yn cael eu tywys ar daith o'r adeilad newydd sbon, arloesol.
Canlyniad pedair blynedd o gynllunio ac adeiladu yw Canolfan S4C Yr Egin sydd yn pontio'r diwydiannau creadigol a digidol, i sbarduno syniadau a chysylltiadau wrth fagu talent a rhannu adnoddau o dan un to.
Mae Canolfan S4C Yr Egin yn adeilad trawiadol ac eiconig sydd wrth galon campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r gymuned leol. Mae'n cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, caffi, bar ac ardaloedd perfformio.
Cyhoeddodd Awdurdod S4C yn 2014 y byddai pencadlys y sianel yn adleoli o Gaerdydd i Gaerfyrddin wedi i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant arwain cais llwyddiannus i ddenu'r sianel i'r dref.
Bydd adleoli pencadlys S4C yn darparu 55 o swyddi yng ngorllewin Cymru mewn diwydiant sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a lle mae galw am ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd y Ganolfan hefyd yn gweithredu fel cartref i glwstwr o gwmnïau mewn meysydd perthnasol.
Mae S4C, sydd yn cyflogi 130 o staff, newydd arwyddo les 10 mlynedd ar ei swyddfa yng Nghaernarfon a bydd yn parhau i ddarlledu a chynnal swyddfa yng Nghaerdydd.
Symudodd aelodau cyntaf staff S4C i'r Egin ym mis Medi. Mae S4C eisoes wedi penodi sawl aelod o staff newydd sydd wedi cael eu recriwtio o ardal gorllewin Cymru.
Meddai'r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant Jeremy Wright:
"Am nifer o ddegawdau mae S4C wedi bod yn angor i ddarlledu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae Llywodraeth Prydain yn gwbl ymroddedig i sicrhau fod S4C yn parhau i ffynnu, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi 10 miliwn i adleoli pencadlys S4C i Gaerfyrddin.
Bydd y symud hwn yn hwb i'r economi leol ac yn hwb i'r diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru i gydweithio gyda'r sector greadigol trwy Gymru gyfan. Bydd yr adeilad trawiadol yma yn sicr yn cynorthwyo S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd led led Cymru a thu hwnt."
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns AS:
"Mae S4C yn sianel sydd â'i gwreiddiau'n ddwfn yn nhirwedd gwasanaethau darlledu cyhoeddus gyfoethog y DU. Mae'r sianel, ynghyd â'i chynnwys, yn cyfrannu'n sylweddol at ddiwylliant ac economi Cymru, i ffyniant yr iaith Gymraeg ac i gryfder ein sector greadigol.
"Mae Llywodraeth Prydain am i'r sianel lewyrchu, gan gipio'r cyfleoedd sy'n dod law yn llaw â'r byd digidol newydd. Gyda Chaerfyrddin yn barod yn gartref i rai o fusnesau creadigol mwyaf llwyddiannus Cymru, gobeithiwn i bencadlys newydd S4C ymddwyn fel catalydd wrth atynnu mwy o ddiwydiannau creadigol i'r ardal, gan ddatblygu hwb greadigol gryfach yn ne Cymru."
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru yr Arglwydd Bourne:
"Rwy'n falch iawn o groesawu agoriad Yr Egin, a fydd yn galluogi S4C i gael y dylanwad ieithyddol, economaidd a diwylliannol mwyaf posibl, wrth gynrychioli'r amrywiaeth o gynulleidfaoedd Cymraeg.
Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod gwerth S4C wrth gryfhau cadernid yr iaith Gymraeg, a'r effaith trawsnewidiol fydd symud i ffwrdd o'r brifddinas yn cael ar economi Gorllewin Cymru.
Drwy ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol diweddar, rydym yn gweithio i gyflawni newid gwirioneddol i sicrhau gall S4C wasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg y dyfodol."
Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:
"Mae adleoli i'r Egin yn garreg filltir bwysig yn hanes S4C. Rydym yn hyderus y bydd Canolfan S4C: Yr Egin yn datblygu i fod yn rhan allweddol o'r gymuned, yn gartref i'r diwydiannau creadigol, yn ogystal â bod yn hwb enfawr i'r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant yr ardal. Byddpresenoldeb cryf yn y Gorllewin, yn ogystal ag yn y Gogledd a'r brifddinas, yn gymorth i sicrhau bod y gwasanaeth yn un sy'n adlewyrchu anghenion Cymru gyfan yn effeithiol.Rydym yn falch o allu creu swyddi da yn yr ardal ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r tenantiaid eraill yn Yr Egin."
Meddai'r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
"Mae'r Brifysgol yn falch iawn o gael croesawu S4C i Gaerfyrddin ac i weld ffrwyth llafur y cydweithio gyda'r Sianel dros y blynyddoedd diwethaf i greu'r Egin. Ein gweledigaeth oedd sefydlu canolfan arloesol a fyddai'n cryfhau'r seilwaith digidol yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r Egin yn gyfle i wneud yn fawr o werth economaidd, ieithyddol a chymdeithasol y llwyddiant i ddenu S4C i adleoli ei phencadlys i Sir Gaerfyrddin trwy sefydlu clwstwr creadigol a digidol i gydleoli â'r sianel. Mae'r Egin yn ganolfan a fydd yn adlewyrchu'r arfer masnachol gorau yn y sector creadigol sy'n gysylltiedig â darpariaeth ddwyieithog y Brifysgol ac yn gyfle i greu cyflymydd a fydd yn ymgorffori prif elfennau canolfan gynaliadwy, gynhyrchiol a chystadleuol dros ben a fydd yn cyfrannu i economïau creadigol a digidol Cymru a'r DU.
Yn rhan o'r agoriad, bydd Manw Lili Robin, enillydd cyfres Chwilio am Seren: Junior Eurovision, yn perfformio 'Perta' sef ymgais Cymru yn y Junior Eurovision ym Minsk ar 25 Tachwedd.
Mae plant o ysgolion lleol wedi eu gwahodd i'r diwrnod arbennig. Bydd cyfle iddynt weld set y sioe boblogaidd Jonathan, sydd yn cael ei ffilmio yng Nghanolfan S4C Yr Egin a hefyd cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Manw.
DIWEDD