Daeth graffiti enwocaf yr iaith Gymraeg yn destun ymgyrch ryngwladol yn gynharach eleni ar ôl i'r neges angerddol 'Cofiwch Dryweryn' ar wal yng Ngheredigion bron a chael ei difetha ar ddau achlysur gwahanol.
Ond, wedi misoedd cythyrblus ac ansicr, datgelir yn y rhaglen arbennig fydd ar S4C yr wythnos hon, Huw Stephens: Cofiwch Dryweryn, bod y wal wedi'i gwerthu i berchennog newydd, gyda'r bwriad o'i gwarchod.
Meddai Dilys Davies, perchennog newydd y wal: "Roeddwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, wedi fy mrifo pan ddifrodwyd wal Cofiwch Dryweryn ddwywaith yn gynharach eleni. Arweiniodd hyn i mi feddwl am beth y gallwn i ei wneud. Yn sicr, ni allwn redeg i fyny i Lanrhystud yn hwyr yn y nos, dringo dros ffensys ac ail-baentio'r wal, felly cysylltais gydag Elin Jones i ofyn sut y gallwn i helpu."
O fewn ychydig ddyddiau i Dilys Davies gysylltu gydag Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion, a Llywydd y Cynulliad, roedd perchnogion blaenorol y wal hefyd wedi cysylltu gydag Elin yn datgan eu diddordeb i werthu'r tîr ble saif yr wal er mwyn ei diogelu.
Meddai'r AC Elin Jones: "Drwy ryfedd gyd-ddigwyddiad mi ges negeseuon wrth y ffermwr oedd berchen y wal a Dilys oedd eisiau prynu'r wal o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd. Mi drefnais i bawb ohonom gwrdd o flaen wal Tryweryn, ac o fewn 10 muned roedd y ffermwr a Dilys wedi cytuno ar bris.
"Mae fy niolch yn fawr i'r ffermwyr a ofalodd am y wal am hanner can mlynedd cyn ei throsglwyddo i Dilys Davies a fydd nawr yn ei diogelu a'i dehongli i'r dyfodol. Neges yw wal Tryweryn i'n sbarduno i fynnu parch a rhyddid i'n gwlad."
Er mai Dilys Davies sydd wedi prynu'r wal, esboniai yn rhan o'r rhaglen ar S4C mai elusen fydd yn ei gwarchod.
Ychwanegodd Dilys Davies: "Bydd y wal yn cael ei throsglwyddo i elusen Tro'r Trai, elusen sy'n hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant Gymreig. Golygai hyn y bydd dyfodol cadarn a diogel i'r wal, a bydd y gofeb yn hollol saff am byth o fewn yr elusen.
"O ran dyfodol yr wal, 'wi ddim moyn gwneud y penderfyniad yn bersonol, gan bod sawl ffordd o'i warchod. Gallwch ddodi ffens rownd e, ond ar y llaw arall, mae rhywbeth yn neis am biti street art, a bod e'n cael ei ail wneud ar ôl i [Meic Stephens] wneud yr un gwreiddiol. Hoffwn feddwl, er fy mod i wedi prynu'r wal, y bydd pob un ohonom yn berchen arni."
Cafodd y neges ei phaentio'n wreiddiol yn y 1960au gan genedlaetholwr ifanc, Meic Stephens, a oedd yn benderfynol na fyddai pobl Cymru yn anghofio penderfyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig i foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala ym 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer Cyngor Dinas Lerpwl.
Yn y rhaglen emosiynol, bersonol, Huw Stephens: Cofiwch Dryweryn fydd ar S4C nos Iau 8 Awst, mab Meic Stephens, y cyflwynydd a'r DJ Huw Stephens, sy'n holi pam fod murlun 'Cofiwch Dryweryn' wedi tanio dychymyg cenhedlaeth newydd o Gymry sydd am warchod ein hanes.
Meddai Huw Stephens: "Mae wal Cofiwch Dryweryn yn ran pwysig o'n hanes ni, ac i bawb yng Nghymru. Rydyn ni fel teulu yn falch iawn fod y wal yn cael ei rhoi i ddwylo elusen - diolch i Dilys - i'w warchod, fel bod yr hyn ddigwyddodd yn Nhryweryn ddim yn cael ei anghofio."
Bydd digwyddiad arbennig ar stondin S4C yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy am 1.30 brynhawn ddydd Mercher yn trafod Cofiwch Dryweryn gyda Huw Stephens.
DIWEDD