S4C Originals – cyfle i ddangos cynnwys Cymraeg gwreiddiol i'r byd
15 Hydref 2019
Bydd S4C yn rhannu llwyddiannau diweddar y sianel gyda darlledwyr ledled y byd, drwy lansio'r brand newydd S4C Originals – Dramâu a Fformat Gwreiddiol S4C - yng ngŵyl deledu MIPCOM yn Ffrainc yr wythnos yma.
Mae sawl cyfres sy'n wreiddiol i S4C wedi ennill gwobrau yn ddiweddar, gan gynnwys Un Bore Mercher (Vox Pictures) a Bang (Joio ac Artists Studio), dwy gyfres ddrama enillodd wobrau BAFTA Cymru, Priodas Pum Mil, a enillodd y wobr am raglen adloniant orau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2019, a Prosiect Z (Boom Cymru), enillydd y wobr rhaglen adloniant orau yng ngwobrau BAFTA Plant 2018.
Mae sawl rhaglen arall wedi ennill clod ysgubol gan wylwyr, gan gynnwys Bwyd Epic Chris (Cwmni Da), Pili Pala (Triongl) a Gwesty Aduniad (Darlun).
Yn sgil y llwyddiannau yma, mae S4C wedi lansio brand S4C Originals, er mwyn cyflwyno'r cynnwys yma i gynulleidfaoedd rhyngwladol newydd ac i ymestyn cyrhaeddiad yr iaith Gymraeg o gwmpas y byd.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C: "Mae Cymru yn wlad gymharol fychan ond mi ydyn ni'n cynhyrchu cynnwys o'r safon uchaf sydd yn ennill gwobrau yn gyson. O reswm, fe allai'r diwydiant edrych tuag at Gymru am gynnwys gwreiddiol o bob genre.
"Drwy lansio Fformat S4C Originals, mi ydyn ni'n gwahodd darlledwyr, dosbarthwyr a phlatfformau i fwrw golwg ac i gymryd ysbrydoliaeth gan wlad fach sydd â syniadau mawr."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?