Mae cyfle i drigolion Llanrwst a'r dalgylch leisio'u barn ar raglenni a gwasanaethau sianel deledu S4C mewn digwyddiad cyhoeddus fis nesaf.
Mae'r sianel yn cynnal Noson Gwylwyr yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst, ar nos Fawrth 3 Rhagfyr, ble fydd sawl aelod o dîm rheoli a staff S4C yno i wrando ar sylwadau'r gwylwyr.
Bydd y noson yn cychwyn am 7.00yh. Bydd offer cyfieithu ar gael i unrhyw un sydd angen.
Mi fydd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, Cyfarwyddwr Creadigol, Amanda Rees, Cadeirydd Dros Dro, Hugh Hesketh Evans, a chomisiynwyr cynnwys y sianel yno i groesawu'r gwylwyr i'r noson.
Dywedodd Hugh Hesketh Evans, Cadeirydd Dros Dro S4C: "Mae S4C yn wasanaeth darlledu cyhoeddus felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gwrando ar lais y gwylwyr.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r cyhoedd i Ganolfan Glasdir i gael trafodaeth onest ac agored am raglenni a gwasanaethau'r sianel, ac i glywed beth fydden nhw'n dymuno gweld yn y dyfodol."
Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn i'w gofio i'r dref ar ôl bod yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac mi fydd staff S4C yn awyddus i glywed barn y bobl am ddarllediadau'r sianel o'r ŵyl, yn ogystal â phob rhaglen arall.
Bydd hefyd cyfle i drafod y sianel ar-lein, Hansh, y gwasanaeth ar alw S4C Clic, a holl sianeli cyfryngau cymdeithasol y sianel.
Os hoffech chi fynychu'r Noson Gwylwyr neu i glywed mwy amdano, ffoniwch 01352 754212 neu ebostiwch nosongwylwyr@s4c.cymru.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr iaith Gymraeg ac yn rhad ac am ddim i'w fynychu.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?