21 Ionawr 2020
Mae hi'n gyfnod newydd yn hanes rygbi Cymru.
Gyda hyfforddwr newydd a sawl chwaraewr ifanc yng ngharfan Cymru, bydd Chwe Gwlad Guinness 2020 yn un llawn antur, yn ôl cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, Gareth Rhys Owen.
Ar ôl ennill y Gamp Lawn y llynedd, bydd Cymru yn cychwyn eu hamddiffyniad o'r goron gyda gêm gartref yn erbyn Yr Eidal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.
Bydd modd gwylio pob un o gemau tîm y dynion yn ystod y bencampwriaeth gyda thîm Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C. Mae Clwb Rygbi Rhyngwladol yn gynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C.
Bydd tair o gemau tîm Menywod Cymru i'w weld ar S4C hefyd, yn erbyn Iwerddon ar ddydd Sul 9 Chwefror a Ffrainc ar ddydd Sul 23 Chwefror a gwe-ddarllediad o'r gem yn erbyn Lloegr ar ddydd Sadwrn 7 Mawrth, yn ogystal â dwy o gemau'r tîm Dan 20, yn erbyn yr Eidal ar nos Wener 31 Ionawr a'r Alban ar nos Wener 13 Mawrth.
Bydd tair o gemau tîm Menywod Cymru i'w weld ar S4C hefyd yn ogystal â dwy o gemau'r tîm Dan 20.
Dywedodd Gareth Rhys Owen: "I ni yng Nghymru, mae hwn yn ddechrau ar gyfnod newydd sbon gyda'r hyfforddwr newydd, Wayne Pivac, felly mae'n gyfnod cynhyrfus. Dy'n ni ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl.
"O dreulio digon o amser yng nghwmni Pivac, mae e'n gymeriad cymdeithasol a hoffus iawn.
"Fyddwn i ddim yn synnu gweld ei bersonoliaeth yn adlewyrchu ar dîm Cymru, drwy wneud y tîm bach mwy parod i fynegi eu hunain ac i ymgeisio'r annisgwyl.
"Ond fyddwn i ddim yn disgwyl iddo ddiystyru popeth gafodd ei adeiladu yn ystod cyfnod Gatland chwaith, a'r holl rinweddau positif a llwyddiannus o'r arddull honno."
Cafodd pum chwaraewr di-gap eu henwi yng ngharfan Pivac ar gyfer y bencampwriaeth, ac mae Gareth yn gobeithio eu gweld yn creu argraff yn y crys coch.
"Mae'n gyffrous gweld chwaraewyr newydd yn y garfan. Efallai nad oedd llawer yn gwybod amdanyn nhw tan yn ddiweddar, ond bois bach, mae Louis Rees-Zammit yn hedfan ar yr asgell i Gaerloyw ar hyn o bryd, ac mae WillGriff John yn brop anferthol, i enwi dim ond dau.
"Mae lot o chwaraewyr profiadol yn y garfan yn ogystal, felly mae'n gyfuniad da. Mae Josh Adams yn un o'r enwau cyntaf yn y tîm y dyddiau hyn, ac mi fyddai'n wych gweld Taulupe Faletau yn ôl yn y tîm hefyd."
A phwy mae Gareth yn ystyried fel y ffefrynnau i ennill eleni?
"Lloegr, heb amheuaeth. Mae eu pymtheg gyntaf, ar bapur, yn frawychus ac mae profiad ganddyn nhw yn y safleoedd pwysig i gyd yn ogystal a chwaraewyr ifanc gwych.
"Mi fyddwn i'n disgwyl gweld Cymru'n ennill eu gemau cartref, gyda'r gwledydd gleision i gyd yng Nghaerdydd. Y gemau oddi gartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr yw'r anoddaf.
"Ond gyda Cymru, Iwerddon a Ffrainc i gyd yn mynd drwy gyfnod o ail-strwythuro, mae'r ansicrwydd am sut fydd y timau yma'n chwarae yn gwneud hwn yn bencampwriaeth anturus a chyffrous."
Bydd y gyfres boblogaidd Jonathan yn dychwelyd i'r sgrîn yn ystod y bencampwriaeth yn ogystal, i edrych ymlaen at bob gêm yng nghwmni Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan, ac amryw o wynebau enwog. Bydd y bennod gyntaf yn cael eu dangos am 9.30pm ar nos Iau 30 Ionawr.
Mae holl gemau Chwe Gwlad 2020 timau Dynion a Merched Cymru, yn ogystal â rhaglenni Jonathan, yn cael eu noddi gan Isuzu.
Amserlen Chwe Gwlad 2020
Rownd 1
31/01/20 - Dan 20: Cymru v Yr Eidal - 7.25pm*
01/01/20 – Dynion: Cymru v Yr Eidal - 1.30pm
Rownd 2
08/02/20 – Dynion: Iwerddon v Cymru – 1.30pm
09/02/20 - Menywod: Iwerddon v Cymru - 12.45pm*
Rownd 3
22/02/20 – Dynion: Cymru v Ffrainc - 4.00pm
23/02/20 - Menywod: Cymru v Ffrainc - 11.45am*
07/03/20 – Menywod: Lloegr v Cymru – 12.05pm (Amser y gic gyntaf - gwe-ddarllediad yn unig)
07/03/20 – Dynion: Lloegr v Cymru – 4.00pm
Rownd 5
13/03/20 - Dan 20: Cymru v Yr Alban – 7.25pm*
14/03/20 – Dynion: Cymru v Yr Alban - 1.30pm
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynyrchiadau BBC Cymru ar gyfer S4C
(* - yn dynodi bod sylwebaeth Saesneg ar gael)