3 Mawrth 2020
Cafodd saith record y byd Guinness newydd eu gosod ar draws Gymru wrth i S4C ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni mewn ffordd unigryw.
Gyda beirniaid swyddogol Guinness World Records (GWR) wedi eu lleoli yn y gogledd a'r de, fe ddaeth Cymry o bob cwr o'r wlad at ei gilydd i geisio torri 11 record.
Fe gafodd cynnwys a chlipiau o'r ceisiadau eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol S4C a GWR, gan ddenu cannoedd o filoedd o sesiynau gwylio ledled y byd.
Fe lwyddodd Tudur Phillips i ddiffodd 55 cannwyll mewn munud, drwy glicio ei esgidiau clocsio gyda'i gilydd.
Allan o'r 11 ymgais am record y byd newydd, cafwyd cadarnhad gan Guinness World Records bod saith wedi llwyddo:
Y 50m cyflymaf yn tynnu cwch cul, gan fenyw - Nicky Walters, yn llwyddo i dynnu cwch gamlas dros 50 medr dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte mewn amser o 1 munud 35.53 eiliad.
Y pice ar y maen fwyaf - Cafodd y gacen gri fwyaf erioed, yn pwyso 28.8kg, ei bobi gan Ferched y Wawr Sir Gâr yn Yr Egin, Caerfyrddin, gyda chymorth gan seren Great British Bake Off, Michelle Evans-Fecci, Becws Tan-y-Castell a Teify Forge.
Y nifer mwyaf o ganhwyllau i'w diffodd gan gliciau sawdl mewn un munud – Tudur Phillips yn llwyddo i ddiffodd 55 cannwyll mewn munud, drwy glicio ei esgidiau clocsio gyda'i gilydd. Fe lwyddodd fideo o'r record yma i denu 1.9 miliwn o sesiynau gwylio ar gyfrwng TikTok, a dros 430,000 ar Facebook o fewn deuddydd.
Y bwa dynol hiraf - Bu 164 pâr o bobl yn ymuno ar Bromenâd Aberystwyth i greu'r bwa dynol hiraf erioed.
Y Ddawns werin Gymreig fwyaf - Daeth 287 o ddisgyblion a rhieni at ei gilydd yn Ysgol Gynradd Pennard, Gŵyr, Abertawe, i ffurfio'r Ddawns Werin Gymreig fwyaf erioed.
Y nifer mwyaf o driciau rheoli pêl 'hot stepper' mewn un munud a'r nifer mwyaf o 'knee catches' pêl-droed mewn 30 eiliad - Fe lwyddodd Ash Randall i dorri dwy record y byd ym Mhortmeirion. Ar gyfer y cyntaf, mentrodd Ash i ddal y bêl gyda'i bengliniau 23 o weithiau mewn 30 eiliad. Yna, fe wnaeth y pêl-droediwr sgiliau lwyddo i gyflawni 56 'hot step' pêl-droed mewn munud, i hawlio ei ail record o'r diwrnod.
Roedd ymgeisiau i osod pedwar record y byd Guinness arall ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond bu'r pedwar yn aflwyddiannus.
Ni lwyddodd unrhyw un i osod record o fwyta 500 gram o fara lawr yng Nghlwb Rygbi Dolgellau.
Roedd hi'n stori debyg ar y Gnoll, yng Nghlwb Rygbi Castell-nedd, lle nad oedd aelodau'r clwb yn llwyddiannus wrth geisio torri tair record: y nifer fwyaf o basys gyda phêl rygbi rhwng dau berson, y nifer fwyaf o drosiadau rygbi mewn munud, a'r nifer fwyaf o daclau rygbi mewn munud.
Mi fydd y recordiau a'u gosodwyd i'w gweld yn llyfr Guinness World Records 2021, fydd yn mynd ar werth ym mis Medi. Mi fydd modd i wylio pob un o'r ymgeisiau mewn rhaglen arbennig ar S4C eleni, sy'n cael ei gynhyrchu gan gwmni Orchard, sydd wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd.
Cafodd y gacen gri fwyaf erioed, yn pwyso 28.8kg, ei bobi gan Ferched y Wawr Sir Gâr yn Yr Egin, Caerfyrddin.
Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar lein S4C:"Rydym wedi llwyddo i dorri sawl record yn ystod y dydd mewn sawl ardal o Gymru, ac mi oedd gorffen yn Aberystwyth yn ddiweddglo perffaith i'r digwyddiad cyfan.
"Trwy weithio gyda Guinness World Records, rydym wedi dangos ein hiaith, ein diwylliant ac ein cenedl i'r byd, ar ddiwrnod nawddsant Gymru."