S4C yn gwrando ar y gynulleidfa mewn sesiwn Facebook Live
14 Ebrill 2020
Bydd cyfle arall i wylwyr roi eu barn ac i ofyn cwestiynau i Brif Weithredwr y sianel, Owen Evans a'r Cyfarwyddwr Cynnwys Amanda Rees mewn digwyddiad Facebook Live ar nos Iau 23 Ebrill am 6.00.
Mae'r sesiwn yn ddilyniant i lwyddiant y digwyddiad byw a gynhaliwyd ar dudalen Facebook S4C cwta fis yn ôl, yn sgîl y penderfyniad i ganslo Noson Gwylwyr yn Aberystwyth oherwydd pryderon Covid-19.
Ymunodd 250 o bobl â'r sesiwn y noson honno, ac fe'i gwyliwyd 11,000 o weithiau wedi hynny.
Cafwyd ceisiadau o bob math am raglenni roedd gwylwyr yn awyddus i'w gweld ar y sgrin dros yr wythnosau nesaf, ac mae S4C yn gobeithio y gellir ymateb i'r ceisiadau hyn. Yn eu mysg roedd ceisiadau am raglenni natur i'r teulu i gyd, hen fideos cerddoriaeth Cymraeg o'r archif, rhaglen ffitrwydd, er enghraifft yoga i wneud yn y cartref, syniadau am focs sets, a llu o awgrymiadau o hen glasuron fel Hufen a Moch Bach, Ryan a Ronnie ac Emyn Roc a Rôl.
Cais arall a gafwyd, a hynny gan wyliwr o Gaerfyrddin, oedd y syniad o ddangos oedfa bob bore Sul i'r nifer fawr o'r gymdeithas sy'n colli mynychu'r capel neu'r eglwys. Ac wrth i S4C addasu ei hamserlen yng nghanol datblygiadau covid-19, penderfynwyd darlledu Oedfa Dechrau Canmol am 11.00 bob bore Sul o 29 Mawrth ymlaen, gyda'r emynau'n cael eu dewis o archif Dechrau Canu Dechrau Canmol.
"Mae S4C yn cynnal Nosweithiau Gwylwyr cyhoeddus yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru, lle mae croeso i'r cyhoedd ddod i drafod S4C, ein rhaglenni a'n gwasanaethau efo ni" meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.
"Ac er nad yw hyn yn bosib ar hyn o bryd, rydym dal yn awyddus iawn i wrando ar lais y gwylwyr. Mae'r sesiynau Facebook Live hyn yn ffordd o gyrraedd mwy o bobl ac o bosib cynulleidfa wahanol.
"Rydym yn awyddus iawn yn y cyfnod yma, er gwaetha'r holl heriau mae pawb yn wynebu ein bod ni'n sicrhau bod ni yno, gyda chynnwys unigryw a chynnwys sy'n mynd i wasanaethu'r gynulleidfa.
"Mae croeso i bawb cysylltu â ni dros Facebook Live i holi cwestiynau ac i rannu beth fydden nhw'n dymuno gweld ar y sianel yn y dyfodol. Gallwch hefyd gysylltu ymlaen llaw drwy yrru cwestiwn at Gwifren Gwylwyr S4C sef gwifren@s4c.cymru, 0370 600 4141."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?