22 Mai 2020
Mae'r rhaglen gylchgrawn Heno wedi cyhoeddi enillwyr eu cystadleuaeth ffotograffiaeth - Llŷr Dafydd Evans, sy'n 19 oed o Foelfre, Ynys Môn ddaeth i'r brig yn y categori Oedolion, a Kia-jo Lloyd o Fethel ger Caernarfon fu'n fuddugol yn y categori Dan 16 oed. Mae'r ddau yn ennill iPad fel gwobr.
Mae'r gystadleuaeth boblogaidd yn denu llawer o geisiadau bob blwyddyn, ond torrwyd pob record y gwanwyn hwn, gyda dros fil o luniau'n cael eu hanfon i mewn gan 620 o gystadleuwyr brwd.
Llun buddugol Llŷr Dafydd Evans yng nghystadleuaeth yr oedolion.
"Y Cartref" neu "Yr Ardd" oedd themâu'r gystadleuaeth, ac roedd dau gategori, sef Oedolion a Dan 16 oed.
Beirniad y gystadleuaeth oedd Kristina Banholzer, ffotograffydd proffesiynol o'r Felinheli, ger Caernarfon, ac roedd hi wedi'i swyno gan lun Llŷr Dafydd Evans o ddyn yn dal ffesant dan ei gesail:
"Pan welis i'r llun yma, dyma fi'n meddwl 'hon ydi hi'. Mae'r portread o'r dyn yma yn sgrechian y gair 'gobaith' i mi yn ystod yr amser yma. Dwi'm yn gwybod stori'r dyn yma ond dwi isio gwybod mwy. Mae o'n bortread lyfli" meddai Kristina.
Myfyriwr Graffeg yn University of Arts Llundain yw Llŷr, ac mae'n hoff o dynnu ffotograffau yn ei amser rhydd. Ei dad yw'r gŵr yn ei lun:
"Cyn y lockdown, fues i'n tynnu lluniau yn Wythnos Ffasiwn Llundain. Mae gen i ddiddordeb mewn ffasiwn. Wedyn ddes i adre adeg y lockdown i gymysgu concrit efo dad, felly mae fatha' dau fyd gwahanol. Ro'n i eisiau cyfuno'r ddau agwedd – y ffasiwn a bod adre" meddai Llŷr.
"Mae dad wedi bod yn bwydo ffesant sy'n dod i'r ardd ers rhyw flwyddyn ac ro'n i eisiau ei roi mewn llun, ond doeddwn i ddim yn medru ei ddal! Wrth fynd am dro, welson ni ffesant wedi marw ar ochr y lôn, wedi'i daro gan gar, felly dyma ni'n ei ddefnyddio yn y llun! Er ei fod yn edrych yn eitha' naturiol, mae'n set up. Mae'r crys mae dad yn ei wisgo yn frand Ffrengig, felly mae'n dipyn o ffotograffiaeth ffasiwn efo elfen o fywyd go iawn!" ychwanega Llŷr.
Llun buddugol Kia-jo Lloyd yn y gystadleuaeth dan 16.
Llun pili-pala Kia-jo, sy'n 12 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Brynrefail a gafodd y fwyaf o argraff ar y beirniad yn y categori Dan 16:
"Allan o'r holl luniau natur, gan gynnwys rhai'r oedolion dwi'n meddwl mai hwn oedd y ffefryn – mae'r lliwiau'n fendigedig" meddai Kristina.
"Ges i gamera yn bresant 'Dolig, a dwi'n reli mwynhau tynnu lluniau. Roedd 'na rywbeth am y llun yma o'n i'n licio, ond o'n i'n speechless pan nes i glywed mod i wedi ennill" meddai Kia.
Bydd yr enillwyr yn ymddangos ar raglan Heno nos Lun 25 Mai am 6.30.