07 Gorffennaf 2020
Betsan Powys sy'n cymryd yr awenau mewn cyfres newydd o Pawb a'i Farn fydd yn dychwelyd i'r sgrin yr wythnos nesaf.
Daw'r cyhoeddiad wrth i S4C lansio'r gyfres hirhoedlog ar ei newydd wedd, yn dilyn ymadawiad Dewi Llwyd o'r rhaglen nôl yn Nhachwedd 2019 wedi 21 mlynedd o wasanaeth.
Bydd y bennod gyntaf i'w gweld ar S4C nos Fercher, 15 Gorffennaf am 9 o'r gloch. Ac er mwyn bod â bys ar byls y materion cyfoes diweddaraf, bydd y rhaglenni yn cael eu hamserlennu yn ôl y galw ar hyd y flwyddyn ac yn delio gyda themâu amserol ac o bwys.
Dywedodd Betsan Powys: "Mae'n allweddol bod S4C â materion cyfoes ar yr awyr rownd y flwyddyn, ac mae'n bwysig i mi fod cymunedau o bob math yn cael cyfle i'w clywed a'i gweld ar y sianel. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael dadlau ein stori ni."
Y pwnc llosg yn rhaglen gyntaf Betsan fydd thema na ellid ei osgoi, sef Covid-19.
Ni fydd cynulleidfa draddodiadol yn ymuno yn y sgwrs yn fyw o'r stiwdio y tro hyn oherwydd cyfyngiadau yn sgil y pandemig. Ond serch hynny, mi fydd hyd at ddeuddeg o westeion yn cynnwys gwleidyddion ac aelodau o'r cyhoedd yn ymuno â Betsan yn stiwdio Tinopolis yn Llanelli a dros sgrin i drafod a holi am effeithiau Covid-19 ar ein cymunedau.
"Mae hi'n mynd i fod yn anodd, mae hi'n mynd i fod yn heriol. Er mai Pawb a'i Farn yw teitl y rhaglen – fydd pawb ddim yn cael bod yna yn y stiwdio. Ond mae e'n bwysig bod ni'n cofio bod barn pawb yn cyfri o hyd, felly mae'r criw wrthi'n dod o hyd i'r atebion technegol i sicrhau bod ni'n gallu gwneud 'na ar gyfer y rhaglenni cyntaf."
Dyma waith cyntaf Betsan ers camu nôl o'i swydd fel Golygydd Radio Cymru gyda'r BBC nôl yn 2018.
"Pan ddaeth y cynnig i wneud Pawb a'i Farn, doedd hi ddim yn anodd i mi gytuno. Dwi'n edrych ymlaen, ac mae rhaid i mi ddweud, mae cyflwyno yn achlysurol yn siwtio fi a'r math o fywyd sydd gen i!
"Mae'r cyfnod diwethaf yn fy mywyd wedi golygu lot fawr i mi, ac mi fyddai'n ei warchod e o hyd yn y dyfodol. Mae e wedi golygu cyfnod ble doedd gen i ddim cyfrifoldeb dros neb, oni bai amdanaf i a fy nheulu. Mae e wedi bod yn gyfnod mor hapus a dwi'n gwerthfawrogi'n fawr fy mod mor ffodus i fod wedi cael cyfnod fel hwn."
Beth yw gobeithion Betsan wrth iddi ymgymryd â'r rôl newydd o gyflwyno'r gyfres?
"Mae popeth fi 'di wneud erioed gobeithio yn dod nôl i'r pwynt yma. Mae'n gyfle, ac yn bwysig i bobl a chymunedau i sicrhau bod eu llais nhw yn cael eu clywed. Yn hytrach na phwyntio bys, mae'n bwysig i ni yma yng Nghymru ddadlau ein stori.
"Ti moyn bod yn rhywle rhwng miniog a sionc wrth gyflwyno Pawb a'i Farn. Dwi'n gobeithio y byddai'n dreiddgar, ond hefyd yn gobeithio y byddwn i'n rhoi'r teimlad i'r gynulleidfa fel eu bod nhw'n gallu codi llaw a rhannu barn ac ymuno yn y sgwrs. Fy ngwaith i hefyd fydd holi'r cwestiynau mae'r gynulleidfa yn chwilio am yr atebion iddyn nhw."