Y Sgarmes Ddigidol – Podlediad fideo rygbi newydd S4C
12 Hydref 2020
Ydi Wayne Pivac wedi canfod ei dîm cryfaf i chwarae dros Gymru? Pa unigolion fydd yn serennu yng ngemau'r Hydref? A beth yw'r farn ar mullet newydd trawiadol Steff Evans?
Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi am Hydref hynod o brysur, dyma rai o'r pynciau llosg fydd yn cael eu trafod gan sêr rygbi o'r presennol a'r gorffennol mewn podlediad fideo Cymraeg newydd gan S4C.
Bydd Y Sgarmes Ddigidol yn rhyddhau podlediad yn dilyn pob un o gemau Cymru yn ystod ffenestr ryngwladol yr Hydref, gan holi rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y gamp am eu barn dros bob agwedd o berfformiadau'r tîm.
Y cyflwynydd a chyn chwaraewr rygbi proffesiynol, Rhodri Gomer, fydd yn arwain y sgyrsiau, gyda'r asgellwr chwedlonol Shane Williams yn cynnig ei farn drwy gydol y gyfres.
Cawn hefyd gwmni sawl seren arall, megis Nathan Brew, Elinor Snowsill, Sioned Harries, Nigel Owens a mwy, dros yr wythnosau i ddod.
Dywedodd Shane Williams: "Mae pawb yn dwli ar weld tîm rygbi Cymru yn chwarae a fi'n edrych ymlaen i'r gemau ddechrau.
"I Wayne Pivac, mae e eisiau ennill gemau. Doedd y Chwe Gwlad ddim beth oeddwn i'n disgwyl gweld a'r ffordd wnaeth e orffen, heb chwarae yn erbyn yr Alban, mi fydd e di bod yn rhwystredig i Wayne. Bydd e moyn dechrau'r Hydref gyda buddugoliaeth.
"Ond hefyd, mae e'n adeiladu ac mae e 'moyn rhoi'r cyfle i'r chwaraewyr ifanc. Mae'n gyfnod eitha' rhyfedd, ond fi'n gobeithio gall y bois fynd mas a chwarae fel maen nhw wedi dros eu clybiau, a rhoi popeth dros ei gwlad..
"Roedd e'n dda gweld Louis Rees Zammit a Callum Sheedy yn cael ei dewis, ac mae dal profiad yn y garfan, felly mae'n cymysgu pethau lan. I fi, does bron ddim byd i'w golli."
Bydd Y Sgarmes Ddigidol yn cael ei ryddhau fel podlediad fideo ar gyfrif Facebook @S4Cchwaraeon ac ar dudalen Youtube S4C yn ystod gemau'r hydref. Bydd hefyd modd i'w lawrlwytho fel podlediad sain o iTunes, Spotify a sawl ffynhonnell podlediad arall.
Gwyliwch holl gemau Cymru yn ystod yr Hydref yn fyw ar S4C, yn cychwyn gyda'r gêm gyfeillgar rhwng Ffrainc a Chymru ar nos Sadwrn 24 Hydref am 7.30yh.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?