18 Tachwedd 2020
Does dim modd osgoi penawdau'r newyddion eleni, ac mae bob stori yn ymwneud rywsut neu gilydd ag un peth – y coronafeirws.
Dyna hefyd fydd ffocws rhaglen nesaf Pawb a'i Farn fydd ymlaen ar S4C nos Fercher 25 Tachwedd am 21.00.
Bydd amryw o bynciau yn cael yn cael eu trafod y tro hwn gan gynnwys sefyllfa ddiweddaraf y feirws a'r frechlyn, ffigurau diweithdra, yr economi a brexit.
Betsan Powys fydd wrth y llyw yn cadw trefn ar yr holi. Bydd Betsan yn siarad o brofiad gan iddi hi, a'i phartner a'u plant brofi'n bositif i'r feirws rai wythnosau yn ôl.
Bu Betsan yn ei gwely am rai dyddiau gyda symptomau'r feirws, ond treuliodd Dylan ei phartner ddau gyfnod yn yr ysbyty yn ymladd y feirws a'i symptomau.
"Aeth y pedwar ohonom i gael prawf yn Stadiwm Pêl-droed Caerdydd, a llwyddwyd i drefnu hynny o fewn rhai oriau yn unig." meddai Betsan
"Doedd y plant ddim yn dangos braidd dim symptomau, ond ro'n i a Dylan â theimlad cyffredinol o fod yn anhwylus."
Fe brofodd Betsan, Dylan a'u dau o blant yn bositif i'r feirws ac wrth iddi hi ddechrau gwella ar ôl rhai dyddiau roedd cyflwr Dylan yn gwaethygu.
"Do'n i ddim yn gallu aroglu na blasu dim byd ac fe gymerodd hynny amser hir i ddod yn ôl ond i Dylan roedd pethe gryn dipyn yn fwy difrifol.
"Fe aeth i'r ysbyty a do'n i'n amlwg ddim yn cael ei weld – roedd hynny'n anodd iawn."
"Ro'n i'n sefyll wrth faes parcio'r Heath yn edrych ar Dylan o bell drwy un o ffenestri bach yr ysbyty.
"Dyna'r unig ffordd oedd gen i o gynnig unrhyw fath o gefnogaeth iddo."
"Un peth ro'n i a Dylan yn ei deimlo oedd ein bod ni'n lwcus iawn i fod wedi dal y feirws yn yr ail don.
"Roedd systemau mewn lle, cyffuriau ar gael a staff gwych y Gwasanaeth Iechyd wedi dod i arfer â delio gyda'r feirws erbyn hynny. "
Cymerodd Betsan yr awenau fel cyflwynydd newydd Pawb a'i Farn nol ym mis Gorffennaf wedi ymadawiad Dewi Llwyd o'r rhaglen ar ôl dros 21 mlynedd o wasanaeth.
"Gobeithio bod y gyfres hon ar ei newydd wedd yn rhoi cyfle i bawb, lle bynnag y mae nhw i gael llais a rhannu eu barn.
"Mae'n raglen brysur iawn gyda gwesteion yn y stiwdio, ar sgrin mewn lleoliadau led led Cymru ac yn cyfrannu ar y cyfryngau cymdeithasol."
"Mae croeso i bawb i ymuno yn y drafodaeth a'r nod yw rhoi cyfle i'r gynulleidfa roi eu cwestiynau ger bron y gwleidyddion. Does dim dwywaith fod y feirws yma'n effeithio pawb."
"Does dim dwywaith fod y pandemig yn effeithio ar bawb, ond yn sicr dwi'n teimlo'n lwcus iawn ein bod ni gyd ar wella."
I leisio'ch barn, neu i holi cwestiwn, cysylltwch â chwmni teledu Tinopolis ar pawbaifarn@tinopolis.com.