15 Rhagfyr 2020
Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Llywodraeth Cymru sydd yn noddi cyfres o gigs byw y Stafell Fyw.
Mae taith y Stafell Fyw wedi cychwyn ers mis Rhagfyr, ac yn gorffen ar ddechrau'r flwyddyn gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yn cymryd rhan.
Rhan o gyffro unigryw cerddoriaeth fyw yw ei brofi'n digwydd o flaen eich llygaid, felly mae'r tri pherfformiad yma'n digwydd yn hollol fyw ar blatfform Lŵp. Platfform a lansiwyd yn Awst 2019 yw Lŵp sy'n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg.
Ar yr ail o Ragfyr, roedd Calan a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Yr Egin, Caerfyrddin. Yna, ar Ragfyr 16 draw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, mi fydd Adwaith a Pys Melyn yn canu. Ac yn olaf, ar y 6ed o Ionawr yn Galeri Caernarfon, bydd set gan Gwilym ac Alffa.
Meddai'r AS a'r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas:
"Dros y misoedd diwethaf mae pob un ohonom wedi gorfod gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw, sydd wedi golygu cyfleoedd cyfyngedig i fwynhau adloniant byw.
"Bydd y bartneriaeth hon â S4C nid yn unig yn rhoi hwb sydd i'w groesawu i'r diwydiant, ond bydd hefyd yn gwella mynediad pobl at adloniant Cymraeg byw.
"Gall mwynhau cerddoriaeth fyw gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl a'n lles, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i'w gefnogi a sicrhau ei fod yn goroesi.
"Mae taith Stafell Fyw yn dangos sut y gallwn fwynhau cerddoriaeth fyw, gan dalent wych o Gymru, wrth barhau i weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru yn ddiogel."
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i lawer, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyngherddau a gigs byw.
"Felly mae gallu comisiynu 3 gig byw mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru yn sicr yn rywbeth cyffrous iawn. Mae'n braf cefnogi a rhoi llwyfan i bawb sydd ynghlwm â'r daith hon, yn ogystal â rhoi blas o gigs byw i bawb adref.
"Rydym ni'n hynod ddiolchgar i Llywodraeth Cymru am noddi'r daith hon."
I brofi'r Stafell Fyw yn llawn, mae'r perfformiadau yn digwydd yn fyw ar blatfform Lŵp ar YouTube a Facebook. Ni fydd y perfformiadau ar gael ar alw, ond mi fydd yn bosib prynu lawr lwythiad o'r caneuon ar wefan y Stafell Fyw (stafellfyw.cymru) ar ôl y digwyddiadau.