17 Rhagfyr 2020
"Lwmp o aur Cymru" - dyna eiriau yr awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer wrth ddisgrifio ei gyfaill oes Dai Jones Llanilar, un o eiconau mwyaf S4C yn ystod y degawdau diwethaf.
Yn sicr mae'n anodd credu ei bod hi'n 50 mlynedd ers i Dai gamu i fywyd cyhoeddus trwy ennill y rhuban glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970.
Cawn ddathlu cyfraniad aruthrol Dai Jones i fywyd cefn gwlad a darlledu yng Nghymru mewn rhaglen arbennig Dathlu Dai a fydd i'w gweld ar S4C ar 1 Ionawr 2021 am 8.00 yr hwyr.
Cawn ein hatgoffa o'r myrdd o raglenni mae Dai wedi bod yn rhan mor ganolog ohonynt gan gynnwys Siôn a Siân, Noson Lawen, Rasus, Ar eich Cais, Y Sioe Fawr a Cefn Gwlad, lle mae wedi bod wrth y llyw ers 1983.
Yn ogystal â rhannu clasuron o'r archif, bydd cyfeillion a chydweithwyr Dai yn rhannu rhai o'u hoff straeon ac atgofion am y cymeriad lliwgar sy'n llwyddo i roi gwen ar wynebau pawb sy'n ei gyfarfod.
"Hud a lledrith Dai yw be chi'n gweld yw be chi'n cael – ar y sgrîn ac oddi ar y sgrîn." meddai'r gyflwynwraig Elinor Jones sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Dai ar sawl achlysur.
"Dai yw cefen gwlad, a cefen gwlad yw Dai. Does dim amheuaeth mai fe yw'r ased mwya' i S4C ei gael erioed."
Cawn hefyd glywed wrth Lywydd Senedd Cymru Elin Jones, y cynhyrchydd teledu John Watkin, y darlledwr radio Geraint Lloyd, y cyflwynydd Ifan Jones Evans, y canwr Trebor Edwards, a rhai o'r teuluoedd fu'n serennu yng nghyfresi Cefn Gwlad gyda Dai – pob un â'i stori unigryw am bersonoliaeth hoffus Dai.
Wrth i Dai benderfynu ymddeol ar ôl cyfnod hir o salwch a rhoi'r gorau i waith teledu - cawn ail-fyw rhai o'r clasuron a'r clipiau mwyaf cofiadwy sy'n siŵr o godi gwên a hel atgofion. Ac mae Dai yn diolch i bawb am yr holl gefnogaeth yn ystod ei yrfa:
"Hoffwn i ddiolch i bawb am fy nghroesawu i'w cartrefi a'u bywydau dros y blynyddoedd." meddai Dai
"Ers hanner canrif 'dwi wedi cael y fraint o agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru - yn gymeriadau, cymunedau, heb anghofio stoc o'r safon uchaf. Dwi 'di cael modd i fyw ac yn ystyried fy hun yn ddyn lwcus iawn fod wedi gallu gwneud hynny gyhyd.
"Ond o'r diwedd mae'r amser wedi dod i roi'r twls ar y bar. Millionaire yw person gyda iechyd, ac mae hwnna'n fwy gwir i ni gyd nawr nag erioed.
Dai Jones Llanilar
"Cofiwch fel 'dwi wedi dweud sawl tro – yr ifanc ydi dyfodol cefn gwlad. A dwi'n gobeithio y cawn nhw yr un cyfleoedd nawr, ac y ges i pan ddechreues i ar fy antur fawr.
"Diolch i bawb am rannu'r daith gyda mi – diolch am yr hwyl, y croeso a'r llawenydd – mae wedi bod yn falm i'r enaid, a'r atgofion yn rhai fyddai'n trysori am byth," meddai Dai.
Ac mae Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C hefyd yn cydnabod cyfraniad anferthol Dai i'r sianel:
"Does dim dwywaith yn rhestr detholion darlledwyr Cymru, mae Dai Jones, Llanilar ar y brig. Mae ganddo'r ddawn naturiol honno o gael y gorau mas o bobl, gan ddefnyddio ei ffraethineb, a chynhesrwydd naturiol i gyflwyno myrdd o gymeriadau bythgofiadwy i ni yn ystod ei yrfa.
"Yn Cefn Gwlad, creodd frand unigryw, gan greu portreadau sensitif o'r bobl yr oedd yn eu cyfarfod heb ddefnyddio'r dulliau confensiynol o gyfweld. Diolch o galon Dai am ei gyfraniad amhrisiadwy ac am ddod â gwen i wynebau ni'r gwylwyr ar hyd y degawdau," meddai Amanda.
Bydd S4C yn parhau i ddod â straeon cefn gwlad i'r gwylwyr gyda Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen wrth y llyw a Rhys Lewis, Meleri Williams a Ioan Doyle hefyd yn rhan o'r criw.
A gyda Dai wedi bod wrth y llyw ers cymaint o flynyddoedd, mae Dai bob amser yn barod ei gyngor, yn ôl y cyflwynydd Ifan Jones Evans:
"Ro'dd hi'n fraint enfawr i fi gael y cyfle i gyflwyno gyda Dai, roedd yn rhywun ro'n i wedi ei wylio pan yn blentyn ar Cefn Gwlad.
"Dwi'n cofio'r rhaglen gyntaf o Tir Prince a holi Dai rhyw gwarter awr cyn i ni fynd yn fyw ar yr awyr. Oes unrhyw gyngor gyda chi i fi Dai?"
"Cofia newid dy bans ar ôl i ti ddod off yr awyr!"
Dathlu Dai
1 Ionawr 2021, 8.00 pm
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Slam Media ac ITV Cymru ar gyfer S4C