Mae Owen Evans, Prif Weithredwr S4C wedi anfon llythyr i'r gwylwyr heddiw i rannu rhai o gynlluniau cyffrous y sianel yn 2021.
Wrth ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i wylwyr S4C, mae Owen Evans yn dweud ei fod yn falch o weld cefn 2020, ac yn nodi y bydd 2021 yn llawn dop o raglenni newydd.
"Bydd sawl drama newydd wreiddiol gyda ni eleni gan ddechrau gyda Fflam ym mis Chwefror sy'n serennu Richard Harrington, Gwyneth Keyworth a Memet Ali Alabora. Bydd drama Bregus ym mis Mawrth gyda Hannah Daniel yn actio'r brif rôl ac Yr Amgueddfa ym mis Mehefin gyda Nia Roberts a Steffan Cennydd yn serennu. Mae rhain yn siŵr o'ch cadw ar flaenau eich seddi a byddant ar gael fel bocs sets hefyd ar S4C Clic " meddai Owen Evans.
"Byddwch hefyd yn falch o glywed fod cyfres newydd o Iaith ar Daith ar y ffordd ym mis Mawrth, gyda chriw newydd o selebs yn dysgu Cymraeg ac yn teithio Cymru. Mae Steve Backshall a Iolo Williams eisoes wedi bod yn ffilmio yn ogystal â Joanna Scanlan a Mark Lewis Jones. Cadwch lygad allan am fwy o sêr yn fuan!"
Soniodd hefyd am wasanaeth newyddion digidol newydd y sianel lle mae tim o staff newydd wedi eu hapwyntio i redeg y gwasanaeth.
"Byddwn yn lansio ap newyddion digidol cyn hir er mwyn bod ar flaen y gad yn dod â'r newyddion diweddaraf i chi ar flaenau eich bysedd."
"Ac i'r rheiny sy'n gwylio S4C drwy Virgin Media, o'r 4ydd o Ionawr ymlaen bydd S4C ar gael ar 104 yn hytrach na 166 ar Virgin Media yng Nghymru. Bydd S4C yn parhau ar 166 yng ngweddill Prydain."
Mae S4C hefyd yn y broses o gasglu barn y cyhoedd at y sianel ac wedi comisiynu cwmni ymchwil a dadansoddi Strategic Research and Insight i arwain ar y gwaith.
"Er mwyn rhoi chi'r gwylwyr wrth galon ein gwasanaethau ry'n ni hefyd yn gwneud tipyn o ymchwil i gasglu barn y cyhoedd am S4C ar hyn o bryd. Beth ydych chi'n hoffi, beth dy'ch chi ddim? Ry'n ni wir eisiau gwybod be' ydych chi'n feddwl o S4C. Gallwch gymryd rhan trwy lenwi ein holiadur wrth e-bostio Gwifren@s4c.cymru
Cymerodd Owen Evans y cyfle hefyd i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i S4C yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?