22 Ionawr 2021
Mae Hansh yn annog pawb yng Nghymru sydd â diddordeb mewn creu ffilmiau i gymryd rhan yn yr Her Ffilm Fer fis nesaf.
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth gyntaf un y llynedd, bydd Her Ffilm Fer Hansh yn ôl eto ym mis Chwefror, i ddathlu Mis Hanes LHDT+.
Ar gyfer y gystadleuaeth, mi fydd cystadleuwyr angen creu ffilm fer wreiddiol sydd yn canolbwyntio ar y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu thrawsryweddol.
Gyda'r her yn cychwyn am 7yh ar nos Wener 12 Chwefror, bydd gan gystadleuwyr gyfnod o 48 awr i greu ffilm yn cynnwys un thema benodol, fydd yn cael ei ddatgelu cyn dechrau'r her.
Bydd yr enillwyr yn hawlio gwobr o £1,000, yn ogystal â thocyn VIP i Wŷl Gwobrau LHDT+ Iris yng Nghaerdydd ym mis Hydref, lle fydd y ffilm fuddugol yn cael ei dangos.
Bydd hefyd cyfle i'r enillwyr ddatblygu eu syniad ffilm ymhellach gydag Academi Ffilm Iris, sef cynllun sydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag S4C a Phrifysgol De Cymru.
Y pum aelod ar banel y beirniaid yw:
- Berwyn Rowlands – Cyfarwyddwr Gŵyl Iris
- Gwenllïan Gravelle - Comisiynydd Drama S4C Drama, Cynhyrchydd Un Bore Mercher/Keeping Faith
- Lee Haven Jones – Actor a Chyfarwyddwr: Dr Who, The Bay, 35 Diwrnod
- Amy Daniel – Cyfarwyddwr a Sgriptiwr: The Legend of Bryngolau, Arth, Y Perchman
Yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at yr her, bydd sesiynau dosbarth-feistr yn cael eu cynnal gan sawl cynhyrchydd adnabyddus, i gynnig cymorth a chyngor i'r cystadleuwyr.
Bydd cyflwynydd yr her eleni, y comedïwr Steffan Alun, yn ymddangos mewn cyfres o fideos ar Hansh drwy gydol y gystadleuaeth.
Dywedodd Steffan Alun: "Mewn cyfnod anodd yn hanes y wlad, ro'n i wrth fy modd i gael gwahoddiad i fod yn rhan o'r Her Ffilm Fer.
"Ar nodyn personol, fel dyn deurywiol, mae'n gyffrous gweld yr her yn manteisio ar Wythnos Hanes LHDT+ - dyma gyfle gwych i bob un ohonon ni ddathlu gyda'n gilydd.
"Hyd yn oed heddiw, ry'n ni'n bell ar ei hôl hi fel cenedl o ran cynrychioli straeon LHDT+ yn y cyfryngau, felly mae cyfle anhygoel yma i ffilmiau Her Ffilm Fer dorri tir newydd.
"Mae'r straeon yma'n digwydd bob dydd yn y byd go iawn, felly mae'n hen bryd i ni weld ein ffilmiau'n adlewyrchu hynny.
"Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb, ac mae hynny mor bwysig. Mae'n hawdd meddwl, "nid fy lle i yw cymryd rhan mewn cystadleuaeth fel hon". Rhaid newid hynny!
"Mae'n swnio'n frawychus – cynhyrchu ffilm mewn 48 awr! Ond mewn gwirionedd, gall fod yn haws creu gwaith o dan gyfyngiadau fel hyn. Dim cyfle i feddwl gormod – rhaid mynd amdani ar unwaith!"
Meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Hansh: "Roedd yr ymateb i her y llynedd yn un mor bositif ac mi rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i'w wneud o eto yn 2021.
"A hithau'n fis Hanes LHDT+ yn ystod mis Chwefror, rydyn ni wedi penderfynu cynnal yr her yn ystod y cyfnod yma i ddathlu cyfraniad y gymuned LHDT+ at fywyd yng Nghymru.
"Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac mi ydyn ni'n hynod gyffrous i weld sut y bydd gwneuthurwyr ffilm Cymru yn adrodd straeon sydd yn dathlu'r gymuned amrywiol yma, sydd wedi ei dan gynrychioli dros y blynyddoedd.
"Rydyn ni'n falch iawn i gyd-weithio gyda Gwobr Iris ac yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad tuag at wobr yr her eleni. Pwy a ŵyr, efallai bydd enillydd y Wobr Iris ymysg ein cystadleuwyr eleni? Pob lwc i bawb!"
I gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i www.herffilmfer.cymru. Dilynwch gyfrifon Hansh ar Instagram, Facebook a Twitter am ragor o fanylion am y gystadleuaeth.