27 Ionawr 2021
Heddiw, ddydd Mercher 27 Ionawr 2021 fe ddarlledodd S4C o Sgwâr Canolog, Caerdydd am y tro cyntaf erioed.
Ers y 90au cynnar mae S4C wedi bod yn darlledu o'i chartref ym Mharc Tŷ Glas yn y ddinas a chyn hynny o Glós Sophia ers ei lansio yn 1982.
Bellach gyda phencadlys y sianel wedi symud i Ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin mae'r bartneriaeth ddarlledu newydd gyda'r BBC yn gonglfaen bwysig yn hanes S4C.
Gwasanaeth plant y sianel, Cyw oedd y rhaglenni cyntaf i'w darlledu o Sgwâr Canolog, a hynny am 6.00 y bore wrth i S4C ddeffro i ddiwrnod o amserlen lawn arall.
Mae gwasanaeth S4C Clic a BBC iPlayer hefyd yn cael eu bwydo o'r ganolfan yng nghanol y ddinas.
Bydd tua 25 o staff yn gweithio i S4C o swyddfa newydd y sianel yn Sgwâr Canolog gan gynnwys yr Adran Gyflwyno, Llyfrgell, Hyrwyddo a Masnachol. Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 bydd nifer o'r staff yn parhau i weithio o adref am y tro.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:
"Dyma benllanw blynyddoedd o waith cynllunio manwl wrth i ni gyflawni cam arall yn ein strategaeth hir dymor.
Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.
"Wrth i ni symud ein pencadlys i'r Egin a phartneri efo'r BBC ar gyfer ein gwasanaethau darlledu, rydym yn sicrhau diwedd llwyddianus i drawsffurfiad S4C o'i hen bencadlys ym Mharc Ty Glas.
"O hyn ymlaen mi fydd y BBC yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu S4C ar deledu ac ar-lein, yn ogystal â bod yn gyfrifol am isadeiledd technegol S4C.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau'r trosglwyddiad llwyddiannus hwn."
Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:
"Dyma ddiwrnod arwyddocaol wrth i S4C ddarlledu o ganolfan y BBC yn y Sgwar Canolog am y tro cyntaf ac mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad ar draws y ddau ddarlledwr.
"Mae'r rhaglen gymhleth hon wedi ei gwneud yn fwy heriol byth wrth i ni barhau i weithio o dan amgylchiadau tra wahanol yn sgîl y pandemig a hoffwn ddiolch i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r bartneriaeth allweddol yma am ein cael i'r garreg filltir bwysig hon."
Bydd S4C yn parhau i gomisiynu ac amserlennu yn ôl yr arfer a bydd pencadlys y sianel yn parhau yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin gyda swyddfa yn parhau yng Nghaernarfon yn ogystal.