16 Chwefror 2021
Co' ni off - eto! Mae Iaith ar Daith yn ôl ar S4C gyda chyfres newydd wrth i chwe seleb fynd ar daith go arbennig, gyda mentor fel cwmni ac ysbrydoliaeth, â'r nod o ddysgu Cymraeg.
Pob wythnos, yn dechrau ar nos Sul, 7 Mawrth, bydd un seleb ac un mentor Cymraeg ei iaith, sydd hefyd yn wyneb adnabyddus, yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o'r iaith - ac fe fydd sawl her ar y ffordd.
Dyma'r selebs sydd yn cymryd rhan yn Iaith ar Daith cyfres 2:
Steve Backshall - Yr anturiaethwr a chyflwynydd rhaglenni natur gan gynnwys 'Deadly 60' a 'Blue Planet Live' ar y BBC, sydd hefyd yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Bangor.
Joanna Scanlan - Mae Joanna yn wyneb cyfarwydd ar ôl actio mewn cyfresi teledu fel The Thick of It, No Offence, ffilmiau fel Bridget Jones's Baby a Notes on a Scandal, yn ogystal â'r cyfresi Cymreig, Stella a The Accident.
James Hook - Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru.
Kiri Pritchard McLean - Digrifwraig ac awdures sydd wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith comedi ac yn wyneb cyfarwydd ar sioeau panel fel Have I Got News for You a 8 Out of 10 Cats Does Countdown
Chris Coleman - Cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru.
Rakie Ayola - Actores sydd wedi gweithio mewn ffilm, teledu a'r theatr gan gynnwys Holby City, Silent Witness a'r gyfres Shetland i'r BBC.
A dyma'r mentoriaid sydd wedi bod ar yr hewl gyda nhw i helpu ddatblygu eu gallu i siarad Cymraeg drwy gynnig ychydig o gefnogaeth - a gosod sawl her!
Mentor Steve yw'r naturiaethwr a'r cyflwynydd Springwatch Iolo Williams.
Mentor Joanna yw'r actor adnabyddus Mark Lewis Jones (Un Bore Mercher/Keeping Faith, The Crown, Gangs of London, Chernobyl).
Mentor James yw'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens.
Mentor Kiri yw drag cwîn mwyaf enwog Cymru sef, Maggi Noggi.
Mentor Chris yw'r cyn-beldroediwr rhyngwladol a'r cyflwynydd Owain Tudur Jones.
Mentor Rakie yw'r actores Eiry Thomas. (Un Bore Mercher/Keeping Faith, Stella, Enid a Lucy, The Accident)
Mae gan bob un o'r selebs reswm gwahanol dros ddysgu Cymraeg.
STEVE: "Dw i wedi bod wrth fy modd gyda Chymru ers imi fod yn fachgen ifanc iawn. Pan dw i'n ymweld â gwledydd eraill, dw i bob tro yn astudio'r iaith. Mae Cymru wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd a dw i ddim yn siarad yr un gair o'r iaith a dydy hyn ddim yn iawn. Dyma fy nghyfle i wneud yn iawn am hyn - beth yn y byd gallai fynd o'i le?!"
JOANNA: "Rwy wedi bod eisiau mynd yn ôl at ddysgu Cymraeg ers sbel oherwydd dw i'n treulio llawer o amser yng Nghymru. Hoffwn i allu gael sgwrs yn y Gymraeg ond hoffwn hefyd i allu darllen yr iaith. Mae gen i ddiddordeb yn niwylliant Cymreig a rhai o'r enwogion diwylliannol ac mae llawer ohonynt yn ysgrifennu yn y Gymraeg. Felly hoffwn allu darllen rhywfaint yn yr iaith Gymraeg, nid yn unig Cymraeg modern ond yr holl ffordd yn ôl i'r gorffennol."
JAMES: "Yn yr haf, wnes i ymddeol o chwarae rygbi, felly mae gen i dipyn bach mwy o amser ar fy nwylo. Mae'n amser perffaith imi ddechrau dysgu'r iaith Gymraeg."
KIRI: "Dw i wedi bod yn ceisio dysgu Cymraeg ar ben fy hunan dros y blynyddoedd diwetha' trwy ddefnyddio apiau ac ati. Ond nawr dw i nôl yn byw yng Nghymru mewn ardal lle mae rhan fwyaf o'r bobl yn siarad Cymraeg, dwi'n teimlo bod o'n rhan bwysig o fy hunaniaeth. Tua 18 mis yn ôl, dechreuais i gwrs Cymraeg ac am y tro cyntaf erioed, llwyddais i gael sgwrs yn y Gymraeg. Ro'n i'n teimlo emosiynol iawn fy mod i allu siarad yn fy iaith i."
CHRIS: "Rwy'n teimlo bod dysgu Cymraeg yn rhywbeth dylen i wedi gwneud blynyddoedd yn ôl. Mae e wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl i ddysgu Cymraeg ac wedyn daeth y cyfle yma gydag Iaith ar Daith. Dwi'n mynd i barhau i ddysgu nes fy mod i'n ddigon rhugl i sgwrsio gyda rhywun yn y Gymraeg."
RAKIE: "Dros y blynyddoedd dw i wedi adrodd cerddi a chanu caneuon yn y Gymraeg. Ond dw i'n dechrau anghofio ystyr y geiriau, mae fy nghof ohonynt yn pylu - a dwi i ddim yn hapus gyda hyn. Hoffwn ail-ddysgu'r pethau dwi wedi anghofio a dysgu mwy - mae Iaith ar Daith wedi cynnig cyfle imi wneud hyn."
Ar eu teithiau, mae'r selebs yn ymweld â llefydd yng Nghymru sydd yn berthnasol iddyn nhw.
Felly, treuliodd Kiri a Maggi eu dyddiau nhw yn teithio o amgylch Ynys Môn lle cafodd Kiri ei magu a sydd nawr yn gartref iddi. Mae Steve yn dod i nabod Gogledd Cymru yn well oherwydd ei gysylltiadau gyda Phrifysgol Bangor a James Hook yn ardal Castell Nedd Port Talbot lle cafodd ei eni a'i fagu.
Bydd sawl her ar hyd y ffordd - pa mor dda mae Steve Backshall yn gallu gosod blodau? Sut un yw Kiri am chwarae'r dryms? A pha mor llwyddiannus bydd Joanna yn rhoi bath i Shani'r ci yng Nghaerfyrddin?
Mae Iaith ar Daith yn dechrau ar ddydd Sul, 7 Mawrth am 8.00 ar S4C gyda thaith Steve ac Iolo. Felly dewch i ymuno â Steve, Joanna, James, Kiri, Chris, Rakie a'u mentoriaid - yr heriau, yr hwyl a'r helynt - wrth iddynt ddechrau ar daith fythgofiadwy i ddysgu Cymraeg.
Iaith ar Daith
Bob nos Sul am 8.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar gael ar alw ar S4C Clic s4c.cymru/clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Boom ar gyfer S4C
Mae Boom Cymru wedi dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i sicrhau fod y gwaith ffilmio ar Iaith ar Daith wedi cael ei gyflawni mewn ffordd ddiogel.
DIWEDD