Y gân Bach o Hwne gan Morgan Elwy Williams yw enillydd Cân i Gymru 2021.
Cafodd Bach o Hwne gan Morgan Elwy Williams o Lansannan ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2021 ar S4C heno (5 Mawrth) o lwyfan Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Caerdydd.
Mae Morgan yn 25 oed ac yn wreiddiol o Dan y Fron ger Llansannan, ond yn byw yng Ngogledd Llundain ers 2019. Ar ôl gadael yr ysgol, mi aeth i Fanceinion i wneud gradd mewn Ffiseg, a bellach mae'n athro Ffiseg rhan amser mewn Ysgol Uwchradd yn Llundain. Y llynedd bu'n ffodus o gael yr holl amser yn y cyfnod clo i recordio ei albwm newydd. Mae'n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni.
Meddai Morgan:
"Mae hyn yn golygu'r byd i mi, a diolch i bawb am gefnogi. A diolch i'r band hefyd – mae hyn yn anhygoel yn enwedig ar ôl blwyddyn fel llynedd."
Cafodd cystadleuaeth 2021 ei lansio nôl ym mis Tachwedd 2020 gyda'r dyddiad cau ar 3 Ionawr.
Dewisodd panel o bedwar beirniad yr wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru 2021. Eleni, y panel oedd Osian Williams o'r band Candelas ac enillydd y gystadleuaeth yn 2013 gyda'r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys, Angharad Jenkins – cerddor ac aelod o'r band gwerin Calan, y gantores, actores a'r gyflwynwraig Tara Bethan, a'r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell, a gyfansoddodd cân fuddugol Cân i Gymru ym 1984 gyda'r clasur, Y Cwm.
Ond heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.
Mae Morgan yn ennill tlws Cân i Gymru 2021 a'r wobr o £5,000.
Fel Hyn Mae Byw gan Huw Ynyr oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Siarad yn fy Nghwsg gan Melda Lois Griffith oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.
Dywedodd Siôn Llwyd o Avanti Media, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar ran S4C fod cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru wedi tynnu sylw unwaith eto at y talent cerddorol sy'n bodoli yng Nghymru.
"Llongyfarchiadau i Morgan ac i bob un o'r perfformwyr a'r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni - mae wedi bod yn noson anhygoel a hynny mewn blwyddyn anodd. Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg," meddai Siôn.
Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2021, ar alw ar S4C Clic s4c.cymru/clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Avanti Media ar gyfer S4C.