18 Mawrth 2021
Mae rhai o gewri chwaraeon Cymru wedi talu teyrnged i cyn gôl-geidwad Gymru, Dai Davies, mewn rhaglen deledu arbennig fydd i'w gweld yr wythnos yma.
Ar Chwefror 10, bu farw Dai Davies yn 72 oed yn dilyn diagnosis cancr y pancreas y llynedd.
Yn hanu o Glanaman yn wreiddiol, cyn setlo yn Llangollen yn ddiweddarach yn ei fywyd, roedd Dai yn ŵr i Judy, yn dad i Gareth, Rhian a Bethan ac yn daid i 12 o wyrion.
Yn ystod ei yrfa bêl-droed, fe enillodd Dai 52 o gapiau dros Gymru, gan gynrychioli sawl glwb, megis Abertawe, Everton, Wrecsam a Tranmere Rovers. Oddi ar y cae, cafodd Dai ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 1978.
Ar ôl ymddeol o'r gamp, fe treuliodd Dai gyfnod fel athro addysg gorfforol, perchennog siop grefftau yn yr Wyddgrug, a pherchennog canolfan iechyd amgen yn Llangollen.
Fe weithiodd hefyd ym myd y cyfryngau fel dadansoddwr a sylwebydd pêl-droed, ac mi oedd o'n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, fel aelod o dîm Sgorio.
Dai Davies (canol) gyda Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones, ar y set Sgorio.
Bydd rhaglen arbennig o'r enw Cofio Dai Davies, sydd wedi ei chynhyrchu gan rai o'i gyd-weithwyr yn Rondo Media, yn cael ei ddangos ar nos Wener 19 Mawrth.
Ymysg y rhai fydd yn rhannu eu hanesion am Dai yn y rhaglen bydd Neville Southall, Syr Gareth Edwards, Dixie McNeill, Nic Parry ac aelodau o'i deulu.
Daeth Neville Southall i nabod Dai gyntaf yng ngharfan Cymru, gyda'r ddau yn rhannu ystafell gyda'i gilydd.
Meddai Neville: "Fe ddysgais lot gan Dai a'r peth fwyaf i mi ddysgu oedd sut i fod yn Gymro. Doedd ble roeddwn i'n dod o yng ngogledd Cymru ddim yn Gymreig iawn, doeddet ti ddim yn clywed yr iaith yn aml.
"Ond roedd Dai yn cynrychioli sut mae person o Gymru i fod i fyw. Iddo fo, roedd ei Gymreictod yn cwmpasu popeth, Dai oedd Cymru.
"Roedd ganddo hiwmor drygionus, ac o siarad efo'r hen chwaraewyr yn Everton, roedd pawb yn hoff o Dai fel person.
"Roedd o'n gryf iawn yn feddyliol, roedd o'n berson oedd yn gofalu am eraill, ac mi oedd o'n ystyfnig iawn ar adegau, rhywbeth wnaeth helpu yn ei yrfa, heb os.
"Os wyt ti'n gôl-geidwad, mae'n rhaid i ti fod yn ddibynadwy, cadarn a saff, ac mi oedd Dai fel hynny ar y cae ac fel person. Dwyt ti ddim yn chwarae pêl-droed rhyngwladol am gymaint o amser os dwyt ti'n dda i ddim byd.
"Cafodd Dai ei farnu'n hallt yn aml ac roedd gweld y cryfder oedd ganddo i ddod drwy hynny, ar ôl iddo wneud camgymeriad, yn werth i'w weld.
"Roedd e'n berson eithriadol o gryf. Roedd Everton yn bencampwyr pan wnaethon nhw ei arwyddo, a tydi pencampwyr ddim yn arwyddo rhywun oni bai bod nhw'n gweld pencampwr yn y person.
"Ac mewn sawl ffordd, mi oed Dai yn bencampwr. Roedd o'n llysgennad dros Gymreictod, dros ddiwylliant Cymreig, a hefyd yn llysgennad dros gadw'n iach.
"Roedd o'n dda iawn hefo fi a wastad yn fentor da.
"Roedd Dai yn cynrychioli popeth Cymreig, a phan dw i'n meddwl am Gymru, dw i'n meddwl am Dai."
Roedd Syr Gareth Edwards yn rhannu tŷ gyda Dai tra'n astudio yng Ngholeg Addysg Caerdydd.
Meddai Syr Gareth: "O'r amser cynta' gwrddais i â Dai, roedd e'n amlwg fod y gallu a'r awch gyda fe i fod yn llwyddiannus, ta beth oedd e mynd i wneud, os taw mynd i fod yn athro oedd e neu mynd i fod yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol.
"Pwy fydda di meddwl taw fi byddai'r chwaraewr rygbi gyntaf i gael hanner gant o gapiau dros ei wlad, a Dai oedd y golwr cyntaf i gael hanner gant o gapiau dros ei wlad. Ni'n eitha prowd o'r holl beth.
"Oeddwn ni'n cael lot o sbri gydag e. Fi wedi hoffi ei gwmni fe dros y blynydde."
Gwyliwch Cofio Dai Davies, ar nos Wener 19 Mawrth am 8.25yh, neu ar alw ar S4C Clic.