Mae S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Twinkl, y wefan sy'n cynnig ac yn creu adnoddau addysgiadol i blant o bob oed.
Mae Twinkl yn creu adnoddau gan athrawon sy'n darparu cynlluniau gwaith ac asesiadau yn ogystal â gemau addysgiadol, realaeth estynedig a llawer mwy. Ac o fis Mai ymlaen, mi fydd adnoddau newydd sbon ar gyfer y gyfres wyddonol Boom! ar gael i'w lawr lwytho a'u defnyddio yn rhad ac am ddim ar wefan Twinkl.
Cyfres danllyd llawn arbrofion gwyddonol ydi Boom! gyda'r brodyr sy'n mwynhau popeth am wyddoniaeth, Rhys ac Aled Bidder, yn cyflwyno. Wedi'i gynhyrchu gan Boom Plant, dyma gyfres fwyaf peryglus Stwnsh. Ffrwydradau, fflamau, cemegion a hyd yn oed mwy o ffrwydradau - mae popeth o dan y chwyddwydr ar Boom!
Ac er mwyn annog diddordeb a chwilfrydedd plant yn y pwnc, mae Twinkl yn creu adnoddau addysgiadol i gyd-fynd â'r gyfres ddiweddaraf.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C:
"Mae'r gyfres wyddoniaeth eithafol Boom! yn adloniant hynod o boblogaidd ar Stwnsh. Ond nawr, diolch i Twinkl, mae pecyn cyffrous o adnoddau addysgol ar gael i gyd-fynd â'r gyfres. Gall plant felly fwynhau'r cynnwys a dysgu ar yr un pryd.
"Fel darlledwr cyhoeddus, mae'n hynod o bwysig i ni fod ein cynnwys ffeithiol yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion fel rhan o adnoddau safonol sydd wedi'u creu gan athrawon ac arbenigwyr pwnc.
"Hoffwn ddiolch i Twinkl a Boom Plant am eu cydweithrediad wrth i ni sefydlu'r bartneriaeth gyffrous yma."
Dywedodd Sioned Beamer, Rheolwr Twinkl Cymru:
"Ein cenhadaeth yn Twinkl Cymru yw darparu cynnwys o ansawdd uchel i addysgwyr cyfrwng Cymraeg a'r rhai sy'n dysgu yng Nghymru – mae helpu'r rhai sy'n dysgu wrth wraidd popeth rydym ni'n gwneud.
"Cyn gynted ag y gwnaethon ni wylio Boom!, nid oeddem ni'n gallu aros i gychwyn creu adnoddau. Maen nhw'n gyfuniad perffaith o'r difyr a'r addysgol!
"Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda S4C a Boom Plant i greu adnoddau sy'n cefnogi Cwricwlwm Cymru yn uniongyrchol ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg."
Mae'r adnoddau newydd sbon ar gael i'w lawr lwytho a'u defnyddio yn rhad ac am ddim ar wefan Twinkl o fis Mai ymlaen. Ac mae'r gyfres newydd o Boom! ymlaen ar Stwnsh bob prynhawn dydd Mercher am 5.45 ac ar S4C Clic.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?