27 Mai 2021
Mae arweinwyr FFIT Cymru wedi llwyddo i wella'u hiechyd yn sylweddol a cholli dros naw stôn rhyngddynt yn ystod y gyfres.
Dros y saith wythnos diwethaf, mae'r pum arweinydd wedi dilyn cynlluniau bwyd a ffitrwydd gyda chefnogaeth tri arbenigwr y gyfres, y dietegydd Sioned Quirke, yr hyfforddwr ffitrwydd Rae Carpenter a'r seicolegydd Dr Ioan Rees.
Wrth i'r gyfres ddod i ben, mae canlyniadau profion meddygol wedi dangos gwahaniaeth mawr.
Ac yn rhaglen olaf y gyfres, fe gafodd pob un o'r arweinwyr eu pwyso am y tro diwethaf, gyda phob un yn dangos colled sylweddol.
Mae Dylan Humphreys, tad i dri o Rosgadfan sydd yn rhedeg cwmni peiriannau cloddio, wedi llwyddo i golli cyfanswm o ddwy stôn ac wyth pwys.
Yn ogystal, mae o wedi gostwng lefel braster ei gorff o 33% i 25%, ac mae ei bwysau gwaed nawr ar lefel normal, yn hytrach na lefel uchel iawn, cyn dechrau'r gyfres.
Meddai Dylan: "Mae o'n meddwl y byd i mi. Oedd o'n sioc i glywed y canlyniadau yna a dwi 'di gallu gwneud rhywbeth amdano fo hefo help yr arbenigwyr.
"Dwi mor falch bo' fi'n sefyll yma heddiw mor hyderus. Mae o'n deimlad rili da."
Mae Leah Owen-Griffiths o Ffynnon Taf, sydd yn fam i ddau o blant, wedi gwella ei hoedran ffitrwydd o gwmpas ugain mlynedd o'i gymharu â saith wythnos yn ôl.
Dros y un cyfnod, mae hi wedi colli stôn ac wyth pwys, ac wedi cyflawni gostyngiad mawr yn ei lefel colesterol, o 180 i 121.
Dywedodd Leah, sydd hefyd yn athrawes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, ym Mhorth, Rhondda: "Dau beth fi'n credu mae FFIT Cymru wedi' roi i mi - sef gwreiddiau ac adenydd, a fi'n barod nawr i hedfan.
"Erbyn hyn, fi'n teimlo mor hyderus yn fy hunan, ac mae e'n dangos ar y tu allan hefyd."
Mae Lois Morgan-Pritchard, sydd yn dod o Y Ffôr, yn fam i ddau o fechgyn ifanc ac yn rhedeg busnes harddwch.
Yn ystod y gyfres mae hi wedi colli stôn a phum pwys, a gostwng ei lefel ffitrwydd o 50 oed, lawr i rhwng 20-29 oed - sydd yn llai na'i gwir oedran o 33 mlwydd oed!
Dywedodd Lois: "Dwi ddim yn meddwl y baswn i byth wedi cerdded lawr y carped coch yma hefo mhen yn uchel cyn rŵan. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen.
"Dwi'n edrych mlaen at yr antur newydd yn fy mywyd i. Be sy'n mynd i aros yn y cof ydi gwneud pedwar ffrind arbennig iawn, ac mi fydda ni'n ffrindiau am byth."
Mae Dr Bronwen Price, o Fethel, yn dweud fod y holl brofiad wedi gwneud hi yn berson llawer iawn hapusach a mwy hyderus.
Mae'r meddyg wedi llwyddo i wella ei lefel ffitrwydd, o 40 oed lawr i 20-29 oed, gan golli stôn a chwe phwys yn y broses.
"Dwi jyst yn teimlo'n anhygoel! Dwi gymaint mwy hyderus ac yn falch o fy hun!
"Dwi jyst wedi cario ymlaen a dyma le ydw i rŵan - yn ddeg gwaith hapusach a deg gwaith mwy hyderus a 'di gwneud ffrindiau am oes. Jyst brilliant!"
Saith wythnos ers dechrau ei daith FFIT Cymru, mae Siôn Huw Davies o Brestatyn wedi lleihau ei bwysau gwaed o lefel uchel iawn i lefel normal.
Mae'r Siôn, sydd yn dad i dri o blant ifanc ac yn Bennaeth Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, yn y Fflint, hefyd wedi llwyddo i golli dwy stôn a dau bwys yn ystod y gyfres.
"Am y tro cyntaf am yn hir, dwi'n mwynhau bod yn Siôn Huw!" meddai.
"Pob tro dwi'n edrych yn y drych, dwi'n gweld dipyn bach o fy nhad yn dod yn ôl, ac mae hynny'n arbennig iawn i mi."
Mae'r gyfres gyfan o FFIT Cymru ar gael i'w gwylio ar alw, ar S4C Clic.
I weld sut fydd y trawsnewid yn parhau i'r arweinwyr, gwyliwch y rhaglen FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn ar S4C ym mis Rhagfyr.