Mae ffilmio ar y gweill ar gyfer yr ail gyfres o'r ddrama gomedi dywyll Enid a Lucy gyda'r gyfres yn ymddangos ar S4C yn gynnar yn 2022.
Cyfres ddrama llawn pryder a thensiwn yw Enid a Lucy gyda digon o hiwmor tywyll ac islais gwleidyddol a chymdeithasol.
Mae Eiry Thomas (The Pact, Un Bore Mercher) yn ôl fel Enid - yr athrawes biano barchus a Mabli Jên Eustace (Pursuit of Love, Byw Celwydd) yn ôl fel ei chyn-gymydog a'i ffrind annisgwyl, Lucy.
Yn y gyfres gyntaf cafodd Enid ei thaflu i gawlach o gyffuriau, cartéls a thrais oedd yn berwi ym mywyd ei chymydog, y fam ifanc, Lucy, a'i phartner hanner call, Denfer (Steffan Cennydd). Ac wrth i Enid helpu Lucy ddianc rhag Denfer a gadael ei chartref gyda'i baban bach, Archie, aeth y ddwy ar bererindod a newidiodd eu bywydau am byth.
Mae taith Enid a Lucy yn parhau yn yr ail gyfres gydag Enid, Lucy ac Archie bellach yn byw o dan yr un to.
Bydd sawl wyneb cyfarwydd o'r gyfres gyntaf gan gynnwys Denfer (Steffan Cennydd - Yr Amgueddfa, The Pembrokeshire Murders) a'i wncl Sid (Nicholas McGaughey - Pobol y Cwm).
Mae Siwan Jones (Tair Chwaer, Con Passionate, Morfydd), sydd wedi ennill sawl Bafta Cymru am ei gwaith sgriptio, yn ôl, hefyd yn ysgrifennu'r ddrama.
Boom Cymru sy'n cynhyrchu'r gyfres a Lona Llewelyn Davies yw'r uwch gynhyrchydd. Meddai Lona: "Mae'r sefyllfa yma yn Enid a Lucy yn naturiol yn creu drama, gwrthdaro, hiwmor a phob math o helyntion. Yn enwedig o gofio fod Denfer yn byw drws nesa ac Wncwl Sid yn ymwelydd cyson yno yn ogystal â Rhodri a Gwenllian yn cyrraedd o Lundain.
"Ond yn hytrach na road trip mae'r ail gyfres yn troi mwy o gwmpas tŷ Enid gyda bydoedd amrywiol y gyfres yn cyffwrdd â'i gilydd o dan yr un to."
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Rydym yn hapus iawn i groesawu Enid a Lucy yn ôl i S4C. Ar ddiwedd y gyfres gyntaf roedd yn amlwg llawer mwy i ddod yn hanes y ddwy ffrind annisgwyl a'r cymeriadau sydd o'u hamgylch.
"Mae drama wedi bod yn ffynhonnell wych o adloniant i'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19, wrth ganiatáu'r gynulleidfa ddianc o fywyd bob dydd a phlymio i mewn i ramant, antur a drama - ac mae Enid a Lucy yn cynnig y rhain i gyd yn ogystal â hiwmor gan ddangos pwysigrwydd cyfeillgarwch."
Mae Enid a Lucy yn cael ei ffilmio mewn lleoliadau yn ne Cymru gan gynnwys Y Bari, Caerdydd a Phenarth.
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?