Mae S4C wedi cyhoeddi fod y sianel yn ehangu y tîm newyddion digidol i 8 aelod o staff llawn amser.
A hithau'n chwe mis ers lansio ap a gwefan NS4C mae dwy newyddiadurwraig newydd yn ymuno â'r tîm.
Bydd Meleri Williams a Nia George sydd newydd ennill graddau meistr o Ysgol Newyddiaduraeth, Prifysgol Caerdydd yn ymuno gyda thri Newyddiadurwr Digidol.
Yn ogystal mae Lydia Griffith wedi ei phenodi i swydd Uwch Newyddiadurwr er mwyn cynorthwyo Dirprwy Olygydd a Golygydd y Gwasanaeth Newyddion.
Mae Molly Sedgemore, enillydd Ysgoloriaeth Newyddion S4C hefyd yn ymuno a'r tîm am gyfnod o dri mis i weithio ar y gwasanaeth a datblygu ei phrofiad ym maes newyddiaduraeth.
Ers lansio ym mis Ebrill, mae'r ap a'r wefan wedi cyhoeddi cannoedd o straeon gwreiddiol, ac hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, yn ogystal â chyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C a gynhyrchir gan BBC Cymru.
Ers ei lansio mae ap NS4C wedi llwyddo i dderbyn 5,000 o lawrlwythiadau.
Mae nifer o straeon gwreiddiol y gwasanaeth wedi cyrraedd pedwar ban byd gyda'r eitem o'r gwymp enwog ar risiau tafarn y Llew Coch ym Mhontrhydfendigaid wedi derbyn 177,000 o sesiynau gwylio ar Twitter.
"Dwi'n falch iawn o sut mae'r gwasanaeth wedi datblygu o fewn y 6 mis cyntaf." meddai Ioan Pollard, Golygydd Gwasanaeth Newyddion Digidol S4C.
"Mae'r tîm wedi gweithio yn ddiwyd i sicrhau ein bod ar y blaen yn torri straeon newydd gan gynnig gwasanaeth Newyddion safonol i'n defnyddwyr ar flaenau eu bysedd, unrhyw amser o'r dydd.
"Mae'r elfen bartneriaethau o rannu a churadu straeon hefyd wedi bod yn gwbl allweddol i lwyddiant y gwasanaeth a dwi'n ddiolchgar iawn i'n partneriaid am gyd-weithio gyda ni i rannu arbenigedd ac adnoddau.
"Mae'n braf hefyd fod y gwasanaeth yn gallu chwarae rôl flaengar wrth ddatblygu newyddiadurwyr ifanc a dwi'n falch o weld y tîm yn ehangu a chynnig cyfle i newyddiadurwyr cyflogedig a llawrydd i weithio ar wasanaeth digidol arloesol a chyffrous."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?