S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwau mawr yn serennu yn nrama newydd Y Golau ar S4C

27 Ebrill 2022

Bydd drama afaelgar seicolegol newydd sbon Y Golau yn dechrau ar S4C ar nos Sul, 15 Mai am 9.00 yh ac ar gael hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon, No Offence) sy'n chwarae'r prif rhan yn y ddrama hon sy'n cynnwys sawl enw mawr arall sef enillydd gwobr Bafta Leading Actress 2022 Joanna Scanlan (After Love, No Offence) ac Iwan Rheon (Misfits, Game of Thrones).

Yn gefn i'r tri mae cast cryf gan gynnwys Hannah Daniel (Un Bore Mercher/Holby City), Siân Reese-Williams (Craith, Line of Duty) ac Annes Elwy (Craith, Electric Dreams).

Dyw Sharon Roberts (Scanlan) byth wedi dod dros marwolaeth ei merch Ela. Cafodd Joe Pritchard (Rheon) garddwr tawel, diymhongar ei arestio am lofruddiaeth Ela ar ôl i'w DNA gael ei ddarganfod yn ei garafán.

Cyfaddefodd Joe iddo ladd Efa, ond roedd yn gwrthod neu'n methu â dweud pam na beth wnaeth e â'i chorff.

Roedd y newyddiadurwraig Cat Donato (Roach), yn wreiddiol o'r un dref, erioed wedi cymryd diddordeb yn llofruddiaeth Ela Roberts. Roedd Ela wedi bod yn un o'i ffrindiau, ond cyn ei llofruddio roedd Ela wedi ei diarddel oherwydd hen ffrae wirion rhwng plant yn eu harddegau, ffaith roedd Cat wedi gwneud y gorau i'w hanghofio.

Mae'r newyddion am wrandawiad parôl Joe a meddwl y gallai gael ei rhyddhau yn gorfodi'r ddwy wraig i wynebu'r gorffennol a'u rhan yn nyddiau olaf Ela.

Gyda chynifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb, gallai gweld Joe yn dychwelyd i'r gymuned fod yn ffordd i ddod i waelod dirgelwch unwaith ac am byth. Ond os mai Joe wnaeth ladd Efa, pam, a ble mae ei chorff?

Meddai Alexandra Roach: "Ces i fy nenu at Y Golau gan ei fod yn stori am ddynes yn dod adref. Dw i wedi teimlo'r atyniad yn ôl i Gymru ers imi adael am y coleg. Mae'n deimlad arbennig iawn i fod yn actio yn y Gymraeg eto ar Y Golau yn enwedig gan ei fod wedi ei leoli yn yr ardal ges i fy magu. Rydw i mor gyffrous i ddod â'r stori hon a Cat Donato i'r sgrin - ac i arddangos Sir Gaerfyrddin i'r byd."

Cafodd Joanna Scanlan ei magu yng Nghymru ac mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg. Cafodd Y Golau ei ffilmio mewn lleoliadau yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys Llandeilo, Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Dyma'r tro cyntaf i Joanna actio yn yr iaith Gymraeg.

Meddai Joanna: "Dwi methu credu yn gyntaf, eu bod nhw wedi meddwl amdana i ac yn ail, eu bod nhw wedi meddwl fy mod i'n gallu gwneud e! Yr unig ffordd galla i resymoli yw - wel, os ydyn nhw'n ddigon gwallgo' i feddwl galla i wneud drama iaith Gymraeg, wedyn mae'n rhaid fy mod i'n ddigon gwallgo' i roi cynnig arni."

"A wnes i fwynhau pob eiliad er ei fod yn hynod o heriol. Ac mae'n anodd, heb amheuaeth, ond rydych yn cael cymaint o foddhad am y gwaith ac mae hynna'n gyrru chi ymlaen. Ry'ch chi jysd eisiau mynd yn ôl a gwneud e gyd unwaith eto. Mae e wedi bod yn anhygoel a galla i ddim diolch digon iddyn nhw (Triongl, S4C, Duchess Street Productions and Channel 4) am roi'r cyfle yma i fi."

Mae'r gyfres wedi'i chreu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a'i hysgrifennu gan Regina gydag Anwen Huws a Siân Naomi. Cafodd ei chyfarwyddo gan Andy Newbery (Un Bore Mercher) a Chris Forster (Craith).

Wedi ei ffilmio yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae'r gyfres wedi cael ei chynhyrchu ar y cyd gan S4C, Channel 4, cynhyrchwyr annibynnol Triongl a Duchess Street Productions ar y cyd ag APC Studios a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Cymru Creadigol.

Bydd Y Golau yn rhoi llwyfan i strategaeth S4C o dan y Prif Swyddog Cynnwys newydd Llinos Griffin Williams, i dynnu sylw at berthnasedd y sianel i'r dirwedd teledu Brydeinig a rhyngwladol, drwy ffrydio eu cynnwys yn fyd-eang a denu rhestr cast o'r radd uchaf a phartneriaid cyd-gynhyrchu domestig a rhyngwladol i'w busnes.

Mewn cynlluniau wedi'u trefnu gan APC Studios, sydd hefyd yn delio â'r gwerthiant ar draws y byd, mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu ar y cyd â Channel 4 a Sundance Now ar gyfer y fersiwn Saesneg i'w darlledu yn y DG a Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd yn y drefn honno.

Donna Wiffen a Jo Roderick o Duchess Street Productions, Gethin Scourfield a Nora Ostler o Triongl a Laurent Boissel o APC Studios sydd wedi cynhyrchu'n weithredol, ynghyd â Gwenllian Gravelle o S4C.

Yn y DG mae'r gyfres wedi'i phrynu gan Nick Lee, Pennaeth Prynu yn Channel 4, Caroline Hollick, Pennaeth Drama yn Channel 4, a chafodd ei goruchwylio gan y Golygydd Comisiynu, Gwawr Lloyd.

Bydd y fersiwn Saesneg yn cael ei ddarlledu ar Channel 4 ac All4

Noddwyd darllediad Y Golau ar S4C gan Brifysgol Bangor.

Y Golau Nos Sul 15 Mai 9.00, S4C Is-deitlau Saesneg ar gael. Ar alw: S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Triongl/Duchess Street Production gyda Channel 4 ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?