18 Mai 2022
Mae ffilmio wedi cychwyn ar ail gyfres y ddrama lwyddiannus Yr Amgueddfa - mae'r cyffro y tro hwn wedi symud allan o'r Brifddinas i rai o leoliadau mwyaf eiconig gorllewin Cymru yn Sir Gâr.
Mae Nia Roberts yn ôl fel Dela - mae hi wedi cael secondiad o'r rôl fel cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar ôl digwyddiadau'r gyfres gyntaf. Mae hi nawr yn rhedeg amgueddfa mewn tref wledig ac yn byw gyda'i chariad Caleb (Steffan Cennydd) mewn hen dŷ traddodiadol sy'n hollol wahanol i'r tŷ teuluol moethus yng Nghaerdydd.
Trosedd celf oedd wrth galon cyfres gyntaf Yr Amgueddfa - ac mae'r elfen yna o drosedd celf dal yna o dan y wyneb yn ôl y sgript-wraig Fflur Dafydd.
Meddai Fflur: "Ni'n ffocysu ar drysorau Cymru, ac yn benodol aur Cymru - gan fynd ar ôl cwpwl o wrthrychau o fwynfeydd aur Dolau Cothi ac un gwrthrych hanesyddol ac amhrisiadwy sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dydw i ddim eisiau dweud gormod ar hyn o bryd ond bydd y trysor hwn yn rhan o'r stori a'r dirgelwch."
Bydd y gyfres hon yn cael ei ffilmio mewn sawl lleoliad eiconig yn Sir Gâr sef Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili, Gerddi Botaneg Cymru yn Llanarthne, a Llyn y Fan Fach ger Llanymddyfri.
Bydd sawl cymeriad cyfarwydd o'r gyfres gyntaf yn dychwelyd, sef Elinor (Sharon Morgan) mam Nia, Mags (bellach yn cael ei chwarae gan Bethan Mclean), ei merch. Mae cymeriadau newydd yn yr ail gyfres sef yr artist Mick (Jâms Thomas) a'i ferch Greta (Saran Morgan).
"Mae Mick yn gymeriad diddorol iawn i'w sgwennu," meddai Fflur. "Mae e'n cerfio'r marionettes 'ma mas o bren ac mae rhywbeth eitha' arswydus amdanyn nhw.
"Mae elfen celf gyfoes yn ogystal â chelf hanesyddol. Mae lot o haenau - ni'n edrych ar herbalism, celf, aur - ac mae 'na ochr ysbrydol, oruwchnaturiol ar brydiau. Mae 'na jysd lot o elfennau diddorol - pethau dwyt ti ddim fel arfer yn gweld wedi eu cyfuno mewn drama ar S4C. Mae'n gyfoes, yn arallfydol bron, ond eto mae'n sôn am y pethau hynafol iawn 'ma ac yn gwbl Gymreig."
Mae cyfres gyntaf Yr Amgueddfa wedi bod yn llwyddiant mawr i gwmni gynhyrchu Boom sydd wedi gwerthu'r gyfres i Brit Box US a Chanada a sianel AXN yn Siapan. Mae'r gyfres hefyd wedi cael ei henwebu yng nghategori Drama yn ngwobrau RTS Cymru 2022 a'r Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022.
Meddai'r cynhyrchydd Paul Jones: "Bydd naws hollol wahanol i'r gyfres hon wrth i Della droi ei chefn ar y ddinas ac ymgartrefu yn Shir Gâr, yng nghanol ei phobol a'i hanes a'i chwedloniaeth."
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Llongyfarchiadau i Paul, Fflur a'r tîm yn Boom a wnaeth greu'r ddrama anhygoel Yr Amgueddfa. Dwi wrth fy modd bod ail gyfres o'r ddrama uchelgeisiol ac unigryw hon a dwi'n sicr bydd y gyfres yma yr un mor llwyddiannus."
Bydd Yr Amgueddfa yn cael ei ddarlledu ar S4C yn ystod tymor y Gaeaf 2022/23.
DIWEDD