25 Mai 2022
Mae S4C wedi sicrhau hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus o 2022 hyd at 2024.
Ar ôl sicrhau cytundeb darlledu gyda UEFA, mi fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn gallu gwylio ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac ymgyrch rhagbrofol UEFA EURO 2024, yn fyw ar Sgorio Rhyngwladol.
Bydd y cytundeb yn cynnwys gemau Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, gan gychwyn gyda'r gêm oddi cartref yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA. Bydd yr holl gemau yn cael eu dangos yn yr iaith Gymraeg ar S4C.
Meddai cyflwynydd Sgorio Rhyngwladol, Dylan Ebenezer: "Yn amlwg, ry'n ni wrth ein boddau fod Sgorio yn mynd i barhau i ddilyn y tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddod â holl angerdd y Wal Goch i ystafelloedd byw, clwbiau pêl-droed a thafarndai'r genedl.
"Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i fod yn gefnogwr Cymru. Mae gennym garfan ifanc a thalentog yn cael eu harwain gan arwyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair dros ben. Allwn ni ddim disgwyl i ddilyn anturiaethau'r tîm unwaith eto."
Meddai Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle: "Rydyn ni'n hynod o falch mai S4C fydd cartref ecsgliwsif i gemau tîm pêl-droed dynion Cymru ar deledu cyhoeddus. Mae hyn wir yn newyddion ffantastig i bêl-droed yng Nghymru ac i'r iaith Gymraeg.
"Rydyn ni yng nghanol cyfnod euraidd i'n tîm cenedlaethol ac mae'n hanfodol ar gyfer tyfiant a datblygiad y gamp bod cefnogwyr yn gallu parhau i fwynhau gemau'r tîm am ddim ar deledu cyhoeddus."
Yn dilyn gêm Gwlad Pwyl v Cymru ar Nos Fercher 1 Mehefin yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, mi fydd S4C yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm Cymru yn Rownd Terfynol Gemau Ail-gyfle Rhagbrofol Ewrop i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA.
Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm gartref o'r fron yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, yn erbyn yr Iseldiroedd ar Nos Fercher 8 Mehefin a Gwlad Belg ar nos Sadwrn 11 Mehefin. Yna, bydd pythefnos prysur o bêl-droed yn dod i ben gyda gêm oddi cartref yn erbyn Yr Iseldiroedd ar nos Fawrth 14 Mehefin.
Gemau Rhyngwladol Cymru – Mehefin 2022
Nos Fercher 1 Mehefin – Cynghrair y Cenhedloedd UEFA – Gwlad Pwyl v Cymru – 5.00yh
Nos Sul 5 Mehefin – Rownd Derfynol Gemau Ail-gyfle Cwpan y Byd FIFA – Cymru v I'w Gadarnhau – 5.00yh
Nos Fercher 8 Mehefin – Cynghrair y Cenhedloedd UEFA – Cymru v Yr Iseldiroedd – 7.45yh
Nos Sadwrn 11 Mehefin – Cynghrair y Cenhedloedd UEFA – Cymru v Gwlad Belg – 7.45yh
Nos Fawrth 14 Mehefin – Cynghrair y Cenhedloedd UEFA - Yr Iseldiroedd v Cymru – 7.45yh